Mapio ardaloedd pwysig pryfaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Cymru yw'r wlad gyntaf yn y byd i fapio yn fanwl ei hardaloedd pwysicaf ar gyfer pryfed, medd cadwriaethwyr.
Cafodd safleoedd allweddol eu hadnabod yn ystod prosiect pum mlynedd o hyd, wnaeth graffu ar dros 45 miliwn o gofnodion.
Mae Cymru'n gartref i dros 20,000 o wahanol rywogaethau o infertebratau.
Mae nifer ohonyn nhw wedi profi "dirywiad dramatig" yn ystod y degawdau diwethaf, yn ôl Buglife.
Fe ddywedodd yr elusen eu bod yn gobeithio bydd eu mapiau newydd yn arwain at "gamau gweithredu cadwraeth cwbl angenrheidiol", tra'n dylanwadu hefyd ar geisiadau cynllunio ar gyfer prosiectau adeiladu.
Mae arbenigwyr wrthi'n mapio Lloegr a'r Alban hefyd, gyda'r nôd o gyflwyno darlun o'r sefyllfa drwy Brydain y flwyddyn nesaf.
6.5% o’r wlad yn gartref i 10,800 o rywogaethau
Cafodd 17 o'r hyn a elwir yn Ardaloedd Infertebratau Pwysig (AIP) eu canfod yng Nghymru, yn goruchuddio 1344km2 neu 6.5% o'r wlad, yn ôl Buglife.
Mae'r ardaloedd yn gartref i dros 10,800 o rywogaethau i gyd, gyda 350 ohonyn nhw o bryder cadwraethol, a 15 mewn perygl difrifol.
Maen nhw'n cynnwys Saerwenynen y Clogwyn - sydd bellach ond i’w chanfod mewn dau safle bach ar ben clogwyni ym Mhen Llŷn.
Un arall sydd mewn perygl ydi’r pryf cerrig prin, gafodd ei ailddarganfod yn ddiweddar yn Afon Dyfrdwy yn dilyn ofnau ei fod wedi diflannu am byth.
Beth yw AIP?
Er nad ydyn nhw'n ardaloedd dynodedig ffurfiol - fel parc cenedlaethol neu safle o ddiddordeb gwyddonol eithriadol - nod yr AIPau yw codi ymwybyddiaeth o lefydd sy'n gartref i boblogaethau o bwys cenedlaethol a rhyngwladol o infertebratau a'u cynefinoedd.
Panel o arbenigwyr yn y maes sy'n penderfynu ar ble sy'n gymwys, gan ddefnyddio data o dros 80 o gynlluniau recordio infertebratau cenedlaethol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r gwaith o'u mapio nhw mewn manylder, fesul un, wedi bod yn digwydd mewn partneriaeth a naturiaethwyr lleol - gan nodi rhywogaethau allweddol, y bygythiadau sy'n eu hwynebu a'r cyfleoedd sydd yna i wella'r tirweddau.
Mae Cors Crymlyn ar gyrion Abertawe - rhan o AIP Arfordir De Cymru - yn un o dri lleoliad yn unig drwy'r DU lle y dewch chi o hyd i un o bry cop mwya'r wlad.
Wedi'i ddisgrifio gan Clare Dinham, Rheolwr Cymru ar gyfer Buglife, fel "rhywogaeth cŵl iawn" - mae'r Corryn Rafftio'r Ffen yn gallu cerdded ar ddŵr.
Mae'i goesau hir, gwalltog hefyd yn ei helpu i synhwyro'i ysglyfaethau - sy'n gallu cynnwys pryfed eraill, penbyliaid a hyd yn oed pysgod bach.
Dylanwadu ar geisiadau cynllunio
Dywedodd Ms Dinham ei bod yn gobeithio bydd y mapiau newydd yn helpu pobl "ddysgu mwy a dathlu eu bywyd gwyllt lleol".
Gallai'r wybodaeth gael ei ddefnyddio hefyd gan elusenau bywyd gwyllt a Chyfoeth Naturiol Cymru i gynllunio gwaith cadwraethol yn y dyfodol, a dylanwadu ar benderfyniadau awdurdodau lleol ar geisiadau cynllunio, meddai.
"Mae poblogaethau infertebratau yn dirywio yn gyffredinol ac mae hynny'n bryder enfawr," eglurodd.
"Maen nhw'n ran allweddol o'r gadwyn fwyd i ystod eang o fywyd gwyllt, maen nhw'n bwysig o ran peillio, priddoedd a dyfroedd iach - felly maen nhw mor bwysig i ni fel pobl."
Ychwanegodd Jamie Robins, Rheolwr Rhaglenni Buglife, ei fod yn "hanfodol gwybod ble mae ein rhywogaethau sydd dan fwyaf o fygythiad yn byw er mwyn sicrhau dyfodol gwell (iddyn nhw)".
"Rydym wedi cychwyn ar y gwaith trwy fapio AIP yng Nghymru, ond dim ond megis dechrau yw hyn."
"Rydym angen i’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau gydnabod y rôl bwysig y mae infertebratau’n eu chwarae a defnyddio ein AIP i flaenoriaethu camau gweithredu cadwraeth cwbl angenrheidiol," meddai.
Mae Cors Crymlyn yn rhan o gynllun adfer mawndir pum mlynedd o hyd LIFEquake - sy'n cael ei redeg gan Gyfoeth Naturiol Cymru a chyllid o'r Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.
Mae'n targedu corsydd crynedig - sy'n cael eu galw'n hynny am fod y tir i fod i grynu dan draed pan fo’r amodau'n iawn - yn ogystal â mawndiroedd eraill - sy'n cael eu gweld yn allweddol i'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd o ganlyniad i'w gallu i amsugno a storio carbon deuocsid.
Dywedodd Mark Bond, swyddog cyfathrebu ac ymgysylltu'r prosiect, bod 90% o fawndiroedd Cymru mewn cyflwr anfoddhaol a bod cynlluniau ar waith i newid hynny.
"Drwy wella hydroleg yr ardal a chael gwared ar blanhigion ymledol gallwn ni annog tyfiant iach y mawndir - sy'n gartref wedyn i rywogaethau anhygoel fel corryn rafftio'r ffen," meddai.
Yn ôl yr entomolegydd - neu arbenigwr ar bryfed - Dr Hefin Jones o Brifysgol Caerdydd, mae'r mapiau newydd yn ddatblygiad "gwych", ac wedi tanlinellu pwysigrwydd gwaith gwirfoddol byddin o naturiaethwyr.
"Mae llawer o ddiolch i'r ficeriaid nôl yn oes Fictoria, oedd yn hoffi mynd i chwilio a dal pili pala ac os ewch chi i'r amgueddfa yng Nghaerdydd fe welwch chi bod nifer fawr o'r casgliadau fan yna wedi'u casglu gan ficeriaid nôl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg," meddai.
"'Da ni erbyn hyn â rhwydwaith drwy Gymru, Lloegr a'r Alban lle mae 'na entomolegwyr sy'n gwneud yn hollol wirfoddol yn mynd allan, recordio be maen nhw wedi'i weld a wedyn yn adrodd nôl i fas data."
Roedd hyn wedi darparu cronfa "hollbwysig" o ddata ynglŷn â lleoliad a chyflwr poblogaethau pryfaid ym Mhrydain, ond hefyd cyfle i ymchwilio pynciau fel effaith newid hinsawdd ar fyd natur, esboniodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2019