Bachgen mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei daro gan gar
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen ifanc mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi iddo gael ei daro gan gar yn Y Barri brynhawn Gwener.
Dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Dobbins am 14:50.
Cafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd a dywedodd y llu ei fod mewn cyflwr difrifol.
Mae'r heddlu'n ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad ac yn annog unrhyw dystion i gysylltu â nhw.