Merch yn y llys ar ôl 'trywanu merch arall bum gwaith'

Llysoedd Merthyr
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y ferch ymddangos mewn gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Merthyr ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae merch 14 oed wedi ymddangos yn y llys wedi'i chyhuddo o geisio llofruddio ac o fod â chyllell yn ei meddiant.

Clywodd gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ei bod yn cael ei honni iddi drywanu merch arall bum gwaith gyda chyllell mewn ymosodiad nos Iau yn ne Powys.

Cafodd ei harestio yn ei chartref am 02:30 y bore wedyn.

Dywedodd y barnwr Stephen Harmes o ystyried difrifoldeb y cyhuddiadau fod yn rhaid trosglwyddo’r achos i Lys y Goron.

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn y digwyddiad ym mhentref Coelbren ger Ystradgynlais.

Cafodd y ferch arall ei chludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol, ble mae hi'n parhau mewn cyflwr sefydlog.

Clywodd y llys ei bod wedi dioddef anafiadau i'w arennau, bol, brest, gwddf a'i wyneb.

Does dim modd enwi’r ddwy ferch am resymau cyfreithiol.

Mae disgwyl i'r ferch sydd wedi'i chyhuddo ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe ar 18 Rhagfyr.