Ymchwiliad Covid: Posibl bod negeseuon WhatsApp wedi'u dileu

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
WhatsAppFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n bosib bod rhai negeseuon gafodd eu hanfon gan bobl oedd yn gweithio yn Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig wedi cael eu dileu, meddai'r prif weinidog.

Dywedodd Mark Drakeford nad oedd ef ei hun yn defnyddio WhatsApp, ac na fyddai'n gwybod sut i ddileu negeseuon yn awtomatig.

Ond ni allai addo nad oes negeseuon wedi cael eu colli cyn bod y llywodraeth yn ymwybodol o'r hyn yr oedd yr ymchwiliad Covid ei eisiau.

Daw'r sylwadau yn dilyn ffrae yn yr Alban am ddileu negeseuon.

Mae negeseuon WhatsApp rhwng swyddogion a gweinidogion y DU wedi bod yn rhan allweddol o dystiolaeth ddiweddar a glywyd gan yr ymchwiliad Covid.

Mae llywodraeth yr Alban wedi cael ei beirniadu am beidio â throsglwyddo'r holl ddata perthnasol, ac mae'r cyn-brif weinidog Nicola Sturgeon wedi gwrthod dweud a oedd hi wedi dileu unrhyw negeseuon ai peidio.

Mae disgwyl i is-fodiwl ymchwiliad Covid sy'n edrych ar yr ymateb yng Nghymru ddechrau gwrandawiadau cyhoeddus ym mis Chwefror 2024.

'Datgelu'r holl ddeunydd'

Yng Nghwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mawrth dywedodd Mr Drakeford fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud "penderfyniad cynnar" i "ddatgelu'r holl ddeunydd y gofynnwyd amdano gan ymchwiliad Covid y DU gan gynnwys negeseuon WhatsApp".

Gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, a oedd Mr Drakeford yn "hyderus nad oedd mecanweithiau dileu yn cael eu defnyddio gan weinidogion y llywodraeth... na swyddogion".

Dywedodd Mr Drakeford nad oedd Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar "ddulliau anffurfiol o gyfathrebu er mwyn gwneud penderfyniadau yn ystod cyfnod Covid".

Dywedodd cyn gynted ag yr oedd ei lywodraeth yn ymwybodol y byddai'r ymchwiliad yn dymuno i ddeunydd gael ei ddatgelu "ni chyhoeddwyd unrhyw gyfarwyddyd o unrhyw fath gan Lywodraeth Cymru y dylid dileu deunydd".

"Felly cyn gynted ag y gwyddom fod yr ymchwiliad eisiau rhywbeth, does dim dileu y tu hwnt i'r pwynt hwnnw."

Cyhoeddodd cyn-brif weinidog y DU, Boris Johnson, yr ymchwiliad ym mis Mai 2021, a dechreuodd yn ffurfiol ym mis Mehefin 2022.

Ychwanegodd Mr Drakeford: "Yn ystod cyfnod Covid ei hun, byddai llawer o gydweithwyr sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru wedi cael dyfeisiau gyda chyfarwyddiadau dileu eisoes arnynt.

"Ac efallai bod y pethau hynny wedi aros ar eu ffonau, oherwydd bryd hynny nid oedd neb yn canolbwyntio o gwbl ar a allai fod angen y negeseuon hynny ar ryw bwynt pell yn y dyfodol."

Pynciau cysylltiedig