Maen Allor Côr y Cewri wedi dod o'r Alban, nid Cymru

Côr y Cewri Ffynhonnell y llun, Dawn Pummintr/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Bellach mae gan Gôr y Cewri gynrychiolaeth o bob rhan o Brydain

  • Cyhoeddwyd

Mae dadansoddiad newydd o gerrig Côr y Cewri - neu Stonehenge - yn ne-orllewin Lloegr yn dangos fod y Maen Allor yng nghanol y cylch hynafol wedi ei drosglwyddo yno o ogledd-ddwyrain Yr Alban, ac nid o dde-orllewin Cymru.

Roedd arbenigwyr wedi bod o'r farn ers degawdau mai o Sir Benfro yr oedd y Maen Allor wedi dod.

Ond mae'r darganfyddiad yn awgrymu fod adeiladu'r cylch wedi bod yn ymdrech gydweithredol lawer mwy nag yr oedd gwyddonwyr wedi ei gredu yn y gorffennol.

Mae'n datgelu bod y cylch yng Nghaersallog yng Ngwlad yr Haf wedi ei adeiladu o gerrig o bob rhan o Brydain, a bod cysylltiadau rhwng gwahanol rannau o Brydain yn y cyfnod Neolithig yn llawer mwy datblygedig yn gymdeithasol nag yr oedd arbenigwyr wedi ei dybio.

Fe gafodd y gwaith ymchwil ei arwain gan Anthony Clarke, myfyriwr PhD o Sir Benfro, sydd erbyn hyn yn gweithio ym mhrifysgol Curtin yng ngorllewin Awstralia.

'Colled fawr i Gymru'

Mae'r darganfyddiad yn cael ei ystyried mor arwyddocaol, fel bod casgliadau'r gwaith ymchwil wedi eu cyhoeddi yn un o gylchgronau newyddiaduraeth wyddonol mwya'r byd, Nature.

Mae'n bluen fawr yn het Mr Clarke fel myfyriwr ymchwil, ond mae hefyd yn foment chwerw-felys, gan fod arbenigwyr wedi bod o'r farn ers degawdau mai o Sir Benfro yr oedd y Maen Allor wedi dod.

“Dwi ddim yn credu y câf i faddeuant gan bobl nôl gartref," dywedodd wrth y BBC.

"Bydd hyn yn golled fawr i Gymru!"

Fodd bynnag, mae Mr Clarke yn pwysleisio fod gweddill y cerrig gleision yn y cylch mewnol yn dod o Gymru, tra bo rhai o'r cerrig mwy yn y cylch allanol yn dod o Loegr.

“Rhaid i ni roi rhywbeth i'r Albanwyr!” meddai.

“O ddifri, mae'n ymddangos fod Côr y Cewri yn ymdrech enfawr gan bobl o bob rhan Brydain," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Anthony Clarke
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anthony Clarke yn dal i gofio pan ddaeth i Gôr y Cewri gyda'i dad am y tro cyntaf, pan oedd yn un oed

Yn 1923 daeth y daearegwr Henry Herbert Thomas i'r casgliad fod y cerrig gleision yn dod o fynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro.

Roedd y maen yng nghanol y cylch cerrig yn fath gwahanol o garreg, ond y gred oedd ei fod yn dod o'r un ardal, tan i wyddonwyr ddechrau cwestiynu hynny tua 20 mlynedd yn ôl.

Dwy flynedd yn ôl, daeth ymchwilwyr - dan arweiniad yr Athro Nick Pearce o Aberystwyth - i'r casgliad nad oedd modd i'r garreg honno fod wedi dod o Gymru, ond parhau'n ddirgelwch wnaeth ei tharddiad, tan nawr.

'Sioc a dweud y lleiaf'

“Fe gawson ni'n syfrdanu o ddarganfod ei bod yn dod o ogledd-ddwyrain Yr Alban," dywedodd yr Athro Pearce wrth y BBC.

“Roedd yn sioc a dweud y lleiaf. Wedi teithio'r pellter yna - 700 cilometr - mae'n anhygoel.

“Rhaid bod gan y bobl neolithig gysylltiadau da, llawer gwell nag yr oedden ni'n ei gredu. Rhaid eu bod nhw'n drefnwyr da.”

Cafodd y darganfyddiad ei wneud gan dîm o brifysgol Curtin, fu'n dadansoddi cyfansoddiad cemegol darnau o'r graig oedd wedi syrthio oddi ar y maen allor, a'u dyddio nhw.

Mae cyfansoddiad a dyddiad pob craig yn y byd yn unigryw, yn debyg i ôl ein bysedd.

Mae gan y tîm yn Awstralia fas data creigiau gyda'r mwyaf cynhwysfawr yn y byd, ac fe ddarganfyddon nhw fod y samplau'n debyg iawn i graig o fas Orcadia, sy'n cynnwys ardaloedd Caithness, Orkney a Moray Firth yng ngogledd-ddwyrain Yr Alban.

Ffynhonnell y llun, Gwyndaf Hughes/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carreg yr Allor bellach wedi’i chladdu’n rhannol ac o dan ddwy garreg arall sydd wedi disgyn ar ei phen

Dechreuodd Côr y Cewri gael ei adeiladu 5,000 o flynyddoedd yn ôl, gydag addasiadau'n cael eu gwneud dros y ddau fileniwm canlynol.

Y gred yw mai cerrig gleision oedd y rhai cynharaf i gael eu gosod ar y safle.

Yn ôl y Dr Robert Ixer o Brifysgol Coleg Llundain, oedd yn rhan o'r astudiaeth, mae'r canlyniadau'n syfrdanol.

“Mae'r gwaith yn arwain at ddau gwestiwn pwysig: Sut cafodd y Maen Allor ei drosglwyddo o ben uchaf gogledd Yr Alban - pellter o 700 cilometr - i Gôr y Cewri, ac yn fwy diddorol, pam?"

Dyma'r pellter hiraf ar gofnod o daith carreg i'w defnyddio mewn cofeb o'r cyfnod hwnnw, ac mae'r Athro Pearce yn dweud mai'r dirgelwch nesaf i'w ddatrys yw sut y cyrhaeddodd yno.

“Mae yna rwystrau corfforol amlwg i'w chludo ar y tir, a thaith yr un mor anodd fyddai hi wedi bod ar y môr.

“Mae'r darganfyddiadau hyn yn mynd i gael effaith pellgyrhaeddol ar ein dealltwriaeth ni o'r cyfnod Neolithig, eu dulliau cysylltu nhw, a'u systemau trafnidiaeth."

Pynciau cysylltiedig