'Ddim yn briodol' i ryddhau llofrudd Lynette White
- Cyhoeddwyd
Mae'r Bwrdd Parôl yn dweud na fyddai'n briodol i ryddhau un o lofruddion amlycaf Cymru o'r carchar.
Cafodd Jeffrey Gafoor ddedfryd o garchar am oes yn 2003 ar ôl pledio'n euog i lofruddio Lynette White, 20, yn ei fflat yng Nghaerdydd yn 1988.
Fe gafodd tri dyn arall eu carcharu ar gam nes i ddatblygiadau yn y maes DNA ddatgelu mai Gafoor oedd wedi ei thrywanu dros 50 o weithiau.
Mae crynodeb gwrandawiad y Bwrdd Parôl ar 21 Mai yn datgan bod Gafoor wedi gwneud cynnydd ers symud i garchar agored y llynedd, ond bod cyfyngiadau Covid-19 wedi ei atal rhag "gwneud cymaint o gynnydd â'r hyn oedd wedi'i obeithio".
Mae'r pandemig hefyd wedi gwneud hi'n amhosib i'w ryddhau dros dro o'r carchar.
Dywed y crynodeb: "Ar ôl ystyried amgylchiadau ei droseddu, y cynnydd ers iddo fod yn y ddalfa, a'r tystiolaethau eraill yn y ffeil, nid oedd y panel yn fodlon bod Mr Gafoor yn briodol i'w ryddhau.
"Fodd bynnag, o asesu buddion a pheryglon parhau i gadw Mr Gafoor [mewn carchar] agored, fe wnaeth y panel argymell y dylid gwneud hynny.
"Mae wedi gwneud ymdrechion sylweddol i fynd i'r afael â risgiau yn ei achos, ac wedi amlygu cynnydd cyson.
"Mae nawr yn benderfyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol [Cyfiawnder y DU) benderfynu a yw'n derbyn argymhelliad y Bwrdd Parôl.
"Bydd hawl gan Mr Gafoor i gael adolygiad parôl arall yn ei bryd."
Clywodd yr adolygiad bod y gwasanaeth prawf heb ddatblygu cynllun rhyddhau llawn yn achos Gafoor, ond fe fyddai'n debygol o gael byw dan amodau caeth mewn llety gyda chefnogaeth.
Dywed y crynodeb: "Daeth y panel i'r casgliad nad yw'r cynllun amlinellol hwn yn barod i reoli Mr Gafoor yn y gymuned ar hyn o bryd."
"Cyngor ei swyddog prawf yw bod angen dychweliad graddol i'r gymuned, gan ddefnyddio cyfnodau o ryddid dros dro i'w brofi'n fanwl a pharatoi ar gyfer yr anghenion yn y pen draw wrth ei ryddhau dan drwydded oes."
Clywodd y gwrandawiad bod ffactorau risg Gafoor adeg y llofruddiaeth yn cynnwys "colli rheolaeth wrth wylltio neu deimlo dan fygythiad".
Roedd yna bryderon hefyd ynghylch ei les emosiynol a'i barodrwydd i ddefnyddio trais ac arfau "heb ystyriaeth ddigonol i'w dioddefwyr".
Tra yn y carchar, mae Gafoor wedi dilyn rhaglenni i fynd i'r afael â'r "modd y mae'n gwneud penderfyniadau, gwell ffyrdd o feddwl a thuedd i ddefnyddio trais".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2020
- Cyhoeddwyd3 Awst 2018
- Cyhoeddwyd11 Mai 2018