Carcharu dyn o'r UDA ddaeth i Gymru i gyfarfod merch ar ôl ei cham-drin

Jacob EwingFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jacob Ewing ei garcharu am saith mlynedd ac wyth mis

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 44 oed o'r Unol Daleithiau wedi cael ei garcharu ar ôl teithio i Gymru i gyfarfod merch yn ei harddegau yr oedd wedi'i cham-drin ar-lein.

Cafodd Jacob Ewing o Ogledd Carolina ei garcharu am saith mlynedd ac wyth mis yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Mawrth.

Roedd wedi pledio'n euog i chwe chyhuddiad o annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithred ryw, dau o geisio achosi i blentyn wylio gweithred ryw, tri o fod â lluniau anweddus o blentyn, a dau'n ymwneud â bod ag arf neu gyllell yn ei feddiant.

Clywodd y gwrandawiad ei fod wedi hedfan o'r Unol Daleithiau i Gymru ar ôl ffurfio perthynas gyda'r ferch ar-lein.

Cafodd ei arestio ym Maes Awyr Caerdydd gan Heddlu Gwent yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gydag awdurdodau yn yr Unol Daleithiau a Llu Ffiniau'r DU.

Ewing 'eisiau ei phriodi'

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Philip O'Connell o Heddlu Gwent bod Ewing wedi dechrau perthynas gyda'r ferch 15 oed dros y we, a'i "hecsbloetio am dros flwyddyn" cyn teithio i'w chyfarfod.

Dywedodd bod gweithredoedd Ewing wedi eu gyrru gan ei "foddhad rhywiol" ei hun.

Clywodd y llys ei fod wedi hedfan i Gymru wrth i'r ferch droi'n 16 oed er mwyn "ei phriodi".

Ond cafodd ei arestio ym Maes Awyr Caerdydd cyn gallu mynd i'w chyfarfod.

Roedd ganddo fodrwyau gydag ef yn ei fagiau, yn ogystal â chyllell a baton pren.

Fe wnaeth yr heddlu ganfod hefyd bod ganddo nifer o luniau anweddus o blant yn ei feddiant.

'Cychwyn ei rheoli'

Roedd wedi ei gorfodi'r ferch i'w wylio yn perfformio gweithredoedd rhyw ar ei hun o leiaf 20 gwaith.

Clywodd y llys nad oedd rhieni'r ferch yn gwybod gyda phwy oedd yr oedd hi'n siarad, a'i bod wedi dweud wrthyn nhw ei bod yn siarad â rhywun lleol yr un oed â hi.

Dywedodd y Barnwr Celia Hughes: "Fe wnaeth e gychwyn ei rheoli, gan newid o fod yn neis i fod yn gas, gan ddweud na ddylai hi gysgu gyda gorchudd yn y nos hyd yn oed pan oedd yn oer.

"Ar un pwynt fe welodd fod gan y diffynnydd datŵ o initials y ferch ar ei frest."

Mynnu fod ganddo 'ganiatâd'

"Roedd yn teimlo wedi ei llethu. Yn anffodus ni wnaeth hi siarad gyda'i ffrindiau am hyn," meddai'r Barnwr Hughes.

"Dywedodd y diffynnydd y byddai'n dod i'r DU pan oedd y ferch yn 16 oed, fel eu bod yn medru priodi a chael plant.

"Cafodd cyllell a baton bren eu canfod ym mag y diffynnydd yn y maes awyr - dwi'n poeni beth y byddai wedi gwneud gyda'r arfau hynny, gan gofio ei fod wedi cynllunio cwrdd â merch yr oedd wedi ei rheoli."

Ychwanegodd fod gweithredoedd Ewing bod yn "ddinistriol" i deulu'r ferch.

Roedd Ewing wedi mynnu i swyddogion ei fod wedi cael "caniatâd" gan fam y ferch i ymddwyn fel y gwnaeth.