Caergybi: Cynllun 'bar gemau' ar gyfer siop sy'n wag ers 17 mlynedd

Byddai'r hen siop Woolworths ar stryd fawr Caergybi, sydd wedi bod ar gau ers 2008, yn cael ei thrawsnewid
- Cyhoeddwyd
Fe allai un o siopau amlycaf stryd fawr Caergybi, sydd wedi bod yn wag ers bron i 20 mlynedd, gael ei thrawsnewid i "bar gemau", gyda chwaraeon a gweithgareddau dan do.
Mae Cyngor Môn wedi derbyn cais i drawsnewid yr hen siop Woolworths, ar Stryd y Farchnad, yn gyfleuster mae datblygwyr yn dweud y byddai'n creu tua 10 o swyddi.
Yn un o'r adeiladau mwyaf ar stryd fawr Caergybi, mae wedi bod yn wag ers tranc cwmni Woolworths yn 2008.
Yn ôl dogfennau cynllunio byddai'r safle 720 metr sgwâr yn cynnig gemau golff, bowlio deg, byrddau pŵl a bar.
Fel rhan o'r cais, sydd wedi ei gyflwyno gan Mr R Lennon, dywedodd asiant eiddo lleol na fyddai'r newid defnydd "yn cael effaith negyddol ar sector manwerthu'r dref" a "gallai fod o fudd sylweddol i fusnesau eraill drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr tra hefyd yn gwella cyflwr yr adeilad nodedig yma".

Mae dogfennau cynllunio yn dangos byddai'r safle yn cynnig gemau golff, bowlio deg, byrddau pŵl a bar, os caiff ei ddatblygu
Cafodd cynigion blaenorol i godi gwesty 119 ystafell ar y safle eu cymeradwyo gan gynghorwyr yn 2018 ond ni chafodd erioed ei ddatblygu.
Cafodd y safle ei grybwyll yn ddiweddarach fel un posib ar gyfer canolfan iechyd integredig.
Mae disgwyl i adran gynllunio Cyngor Môn drafod y cais dros y misoedd i ddod.