Plant gafodd eu cam-drin wedi'u trin yn greulon wedyn - adroddiad
- Cyhoeddwyd
Ar ôl cael eu cam-drin yn rhywiol fel plant, cafodd dioddefwyr eu trin yn greulon gan fynachod ar ynys yn Sir Benfro, yn ôl adolygiad diogelu.
Dywedodd un o'r rhain fod ymateb Abaty Ynys Bŷr, o wadu a herio'r gamdriniaeth, wedi gwneud pethau'n waeth o lawer iddi.
Mae'r adroddiad yn dweud na chafodd honiadau niferus eu nodi gan yr abaty a bod y mynach Thaddeus Kotik wedi cael rhwydd hynt i gam-drin am ddegawdau.
Mae arweinydd newydd yr abaty, yr Uchel Dad Jan Rossey, wedi ymddiheuro am y dioddefaint a dywedodd fod mesurau mewn lle i wella diogelwch.
'Dwylo garw'
Bu Rebecca, o dde Cymru, yn byw ar Ynys Bŷr am bum mlynedd a hanner cyntaf ei bywyd.
Dywedodd ei bod yn cofio cael ei cham-drin gan Kotik pan oedd tua phedair oed.
Byddai'n ei denu hi a phlant eraill gyda'r addewid o losin, siocled a danteithion eraill ac yna'n ei cham-drin.
"Ro'n i'n ceisio dianc, ond allwn i ddim. Roedd ei ddwylo'n arw iawn ac roedd yn fy nal yn rhy dynn. Roedd e'n anafu fi," meddai.
Parhaodd y gamdriniaeth drwy gydol ei chyfnod ar yr ynys ac mae'r effeithiau wedi para am oes, meddai.
Yn ei harddegau roedd ganddi deimladau o hunan-gasineb, diffyg gwerth, bu'n hunan-niweidio a bu sawl ymgais i gymryd ei bywyd ei hun.
"Dydw i ddim yn gwybod sut wnes i oroesi, roedd yn ofnadwy ac fe aeth o ddrwg i waeth," meddai.
Mae Ynys Bŷr oddi ar arfordir Dinbych-y-pysgod yn eiddo i urdd o fynachod Sistersaidd ac mae'n atyniad mawr i ymwelwyr.
Yn ogystal â'r mynachod, roedd pobl eraill yn byw ar yr ynys, wedi eu cyflogi gan yr abaty, gyda'r un drefn yn parhau.
Rhwng diwedd yr 1960au hyd at 1992, bu Kotik yn cam-drin plant oedd yn byw ar yr ynys a phlant oedd yn ymweld â hi.
Gydag adolygiad wedi ei gomisiynu gan yr abaty yn gynharach eleni, mae Rebecca'n un o 16 o oroeswyr sydd wedi cyfrannu iddo.
Roedd yn un o chwe menyw i dderbyn iawndal "pitw" gan yr abaty yn 2017, ond heb ymddiheuriad.
Dywedodd Rebecca ei fod yn teimlo fel "arian taw".
"Mae cuddio'r gamdriniaeth dros y blynyddoedd wedi ei gwneud yn filiwn gwaith yn waeth," meddai.
"Roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy erlid dro ar ôl tro oherwydd y ffordd y cawson ni gyd ein trin."
Bu farw Kotik yn 1992 heb wynebu unrhyw gyhuddiadau troseddol.
Casgliadau'r adolygiad
Mae'r adolygiad yn amlinellu sawl cyfle a gollwyd i nodi'r cam-drin ac yn dod i'r casgliad bod diffyg arweinyddiaeth ar y lefel uchaf o fewn yr urdd a'r abaty.
Roedd Kotik yn cael crwydro'r ynys gyda'r plant a neb yn herio'i ymddygiad.
Hefyd roedd yna ddiffyg hysbysu'r awdurdodau am yr honiadau amdano.
Mae'n nodi bod yr ymateb gwrthwynebus diangen gan yr abaty wedi niweidio dioddefwyr a'u teuluoedd ymhellach.
Yn ogystal mae troseddwyr eraill wedi byw neu dreulio amser ar yr ynys, gan gynnwys y pedoffeil Paul Ashton.
Bu Ashton yn byw yno am saith mlynedd tra ar ffo oddi wrth yr heddlu.
Dywedodd yr adolygiad fod ganddo fynediad i system gyfrifiadurol yr ynys a'i fod wedi lawrlwytho delweddau anweddus o blant.
Mae'r Uchel Dad Jan Rossey, sy'n arwain yr abaty ers llynedd, wedi ymddiheuro gan ddweud mai diogelu yw ei flaenoriaeth.
"Rwy'n ymddiheuro'n ddiffuant. Mae'n ddrwg iawn gen i am yr holl ddioddefaint ond hefyd wedyn, am beidio â gwrando. Mae'n dorcalonnus darllen y straeon hynny.
"Diogelu yw fy mhrif flaenoriaeth er mwyn i bawb sy'n dod i'r ynys, yn blant ac oedolion fel ei gilydd, gael amser da," ychwanegodd.
Gwnaeth yr adolygiad 12 o argymhellion a dywedodd yr abad y byddan nhw'n cael eu gweithredu'n llawn.
Ychwanegodd fod gwelliannau diogelu eisoes wedi'u gwneud, gan gynnwys hyfforddiant i bawb ar yr ynys yn ogystal â gwiriadau DBS gorfodol.
Mae'r ymgynghorydd diogelu Richard Powell o Lanaman, Sir Gaerfyrddin yn dweud ei fod wedi cael "sioc" wrth ddarllen yr adroddiad a theimlo "gwir ddicter".
"Yn gyntaf oll ma' nhw wedi gwadu bod problem, ma' nhw wedi methu credu dioddefwyr ac wedi ymateb gyda gelyniaeth at unrhyw un sy'n cwyno.
"Mae'n dangos rhyw feddylfryd o eglwys yn gyntaf, dioddefwyr diwetha'.
"Mae'r adroddiad yn dangos i fi bod ishe parhau gydag arolygwyr allanol.
"Yn anffodus ar ôl darllen be sy wedi digwydd cyn heddi, mae'r lefelau hyder yn weddol isel, mae'r abaty wedi cael sawl siawns i ymateb a ma' nhw wedi ffaelu."
Mae'r Parchedig Nan Wyn Powell-Davies o Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn gyfarwyddwr panel diogelu cydenwadol.
"Mi ddaru'r panel ddechrau fel menter cydenwadol, rhwng yr Annibynwyr, y Bedyddwyr a ninnau yma'n Nghymru a hynny er mwyn i'n gwaith diogelu fod yn broffesiynol ac er mwyn i ni gynnig hyfforddiant robust nid yn unig i weithwyr a gweinidogion ond hefyd i wirfoddolwyr," meddai.
"O fewn eglwysi, yr heriau bob amser ydy cydymffurfiant, oherwydd 'da ni'n ymwybodol bod lot fawr sydd yn ein heglwysi ni'n heneiddio ac mae arferion diogelu yn arferion eitha' newydd.
"Ma' lot o'r broses gan y panel a gyda ni fel eglwys hefyd wedi bod ar newid agwedd pobl a chael pobl i sylweddoli felly bod diogelu'r peth pwysica' fedar unrhyw eglwys wneud."
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu hadnabod wedi'ch effeithio gan y stori yma, mae cefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2017