Cam-drin rhyw: 'Siarad a chwnsela wedi achub fy mywyd'
- Cyhoeddwyd
Mae gŵr ifanc o’r gogledd a gafodd ei gam-drin yn rhywiol pan yn blentyn gan ddyn roedd yn ei adnabod yn dweud mai siarad am y profiad a chael cwnsela wnaeth achub ei fywyd.
Ond mae achosion llys - fel dedfrydu'r cyn-bennaeth ysgol Neil Foden ddydd Llun - yn corddi hen deimladau, meddai, a dydy o ddim yn gallu darllen na gwrando ar straeon o’r fath.
“I fod yn onest fedra i ddim gwrando ar newyddion os 'di rhywbeth fel hyn codi," meddai'r dyn ifanc, sydd ddim am gael ei enwi.
"Dwi’n gorfod rhoi’r teledu ar mute neu newid sianel – achos mae’n dod â chymaint o bethau nôl.
"Dwi’n cofio - yn ystod y cyfnod pan doeddwn i ddim wedi d'eud wrth neb - bod cymaint o newyddion am celebrities wedi gwneud yr un fath o bethau a mi oedd yn dod â flashback ar ôl flashback yn ôl i mi.”
'Teimlo'n ddi-werth'
Cafodd ei gam-drin yn rhywiol pan yn blentyn naw oed, ond wnaeth o ddim dweud wrth unrhyw un am 12 mlynedd.
Dywedodd wrth raglen Post Prynhawn: “Yn fy achos i, ar ôl yr ymosodiad mi wnaeth yr ymosodwr dd'eud wrtha i am beidio d'eud wrth neb - a hyd yn oed taswn i’n d'eud wrth rywun fasa neb yn fy nghoelio i.
"Mi oedd yr ofn roedd o wedi ei greu arna i yn rhywbeth fedra i ddim ei ddisgrifio mewn geiriau.
"Mi oedd o wedi g'neud i mi gwestiynu fy hun a mi oedd wedi ei dd'eud o mewn ffyrdd gwahanol ac wedi ailadrodd y peth cymaint o weithiau, mi oeddwn i wedi dechrau meddwl, 'doedd 'na ddim pwynt d'eud', achos fasa pobl ddim yn fy nghredu i.
"Mi wnaeth o gymryd tua 12 mlynedd i mi dd'eud 'hold on am funud' a sylweddoli mai celwydd noeth oedd hynny."
Roedd y 12 mlynedd yn rhai anodd iddo, wrth fyw efo’r hyn oedd wedi digwydd.
“Dwi’n cofio ar ôl iddo fo ddigwydd mi oeddwn i’n teimlo yn eithriadol o fudr ac yn teimlo’n ddi-werth, a methu cael fy hun yn lan.
"Ond hefyd mi wnes i fynd i ryw fath o coping mechanism – a ma' hynny’n wahanol i bawb ar ôl siarad hefo cwnselwyr gwahanol – a mi wnes i bwsho cymaint o bobl i ffwrdd, cymaint o ffrindiau, achos mi oeddwn i’n 'nabod y person wnaeth ymosod arna fi.
"Yn ddrwg o beth ella – wnes i ddim paentio pawb hefo’r un brwsh - ond o'n i’n meddwl, oes oedd rhywun oeddwn i’n ei 'nabod yn medru gwneud hynny i mi, mi fasa rhywun arall yn medru gwneud yr un fath.”
'Y pŵer a’r grym gen i'
Pledio’n ddieuog wnaeth yr ymosodwr yn achos y dyn ifanc, cyn cael ei ganfod yn euog.
“Mae pobl yn disgwyl i chi dd'eud bod o’n anferth o ryddhad, a mewn lot o ffyrdd mae o.
"Ond be' sydd yn anodd delio hefo fo ydy’r emosiwn.
"Wrth edrych nôl mae rhywun mae yn sylweddoli - mae 'na bobl wedi fy nghredu fi, y CPS (gwasanaeth erlyn y goron) wedi fy nghredu fi ac wedyn y cam nesa – os 'di’r rheithgor yn dy gredu di.
"Felly pan ges i’r alwad dwi’n cofio doeddwn i rili methu siarad.
"Wnes i dd'eud diolch wrth y blismones – a mi oeddwn i mewn sioc achos mi oedd be' oedd o wedi ei dd'eud wrtha i yr holl flynyddoedd nôl na fasa neb yn fy nghredu yn gwbl anghywir.
"A bod y pŵer a’r grym yna gynno fi a dim gynno fo - a ma' hynna yn rhywbeth mawr a rhywbeth pwysig i bobl sylweddoli.
"Os wyt ti wedi cael dy gam-drin mae’r pŵer a’r grym gynno chi a ddim yr ymosodwr."
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd15 Mai 2024
Cafodd nifer o sesiynau cwnsela er mwyn trafod beth oedd wedi digwydd – a dyna, meddai, wnaeth achub ei fywyd.
“Dwi wedi gorfod byw hefo fo – 'di o ddim wedi bod yn ddewis, ddim yn rhywbeth y baswn i isio byw hefo fo.
"Mi ges i dri cyfnod o gwnsela, ac er ei bod hi’n swnio’n hawdd i dd'eud – achos dwi’n gw'bod pa mor anodd ydy siarad – siarad sydd wedi achub fy mywyd i heb os nac oni bai.”
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Mae’r cyfweliad ar gael yn llawn ar wefan Post Prynhawn ar BBC Sounds.