'Siom gweld rygbi Cymru yn y penawdau am y rhesymau anghywir'

Tîm merched CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'n "siomedig" gweld rygbi Cymru yn y newyddion "am y rhesymau anghywir", yn dilyn honiadau o rywiaeth yn Undeb Rygbi Cymru (URC), meddai gweinidog yn Llywodraeth Cymru.

Ddydd Gwener, ymddiheurodd URC am y ffordd y cafodd trafodaethau cytundeb tîm y merched eu cynnal, a hynny lai na blwyddyn ers adolygiad annibynnol damniol i'w ddiwylliant.

Fe wnaeth Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, gyfarfod gyda swyddogion URC dydd Llun.

Mae'n dweud ei fod eisiau cwrdd â’r chwaraewyr benywaidd hefyd er mwyn “deall yn uniongyrchol ganddyn nhw natur eu pryderon a gweld sut gallwn ni helpu pawb i symud ymlaen yn adeiladol”.

Mae'n dweud y bydd URC yn "edrych i gyfarfod â'r chwaraewyr yn fuan i gyhoeddi ymddiheuriad".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jack Sargeant wedi mynegi ei “siom fod rygbi Cymru yn y penawdau am y rhesymau anghywir”

Yn y cyfarfod gydag URC dydd Llun, dywedodd y gweinidog ei fod wedi mynegi ei “siom fod rygbi Cymru yn y penawdau am y rhesymau anghywir”.

Dywedodd: "Dros y dyddiau nesaf, byddaf yn ceisio deall safbwyntiau amrywiol ar y broses hon a bodloni fy hun bod gwersi'n cael eu dysgu."

Yn y cyfarfod fe wnaeth Mr Sargeant gwrdd â Chadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood, Prif Swyddog Gweithredol, Abi Tierney, a Nigel Walker, Cyfarwyddwr Gweithredol Rygbi.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Cerys Hale 49 o gapiau i Cymru cyn iddi ymddeol ym mis Gorffennaf 2024

Mae'r cyn-chwaraewr Cerys Hale, a gafodd 49 o gapiau i Gymru, yn gobeithio bod y chwaraewyr wedi derbyn eu hymddiheuriad olaf gan URC ar ôl cael eu "gadael i lawr" eto gan y corff llywodraethu.

Mae arweinwyr yr undeb wedi cyfaddef bod methiannau yn y broses, a dweud ei bod hi’n “gwbl amlwg” y dylai'r bwrdd ymddiheuro.

Mewn e-bost, a welwyd gan y BBC, roedd hi'n ymddangos bod chwaraewyr dan fygythiad o gael eu tynnu’n ôl o gystadleuaeth WXV2 a Chwpan y Byd y flwyddyn nesaf wrth i’r trafodaethau chwalu.

Cafodd y chwaraewyr "gynnig olaf" ar 2 Awst, a rhybudd na fyddai gemau yn erbyn Seland Newydd, yr Alban ac Awstralia yn mynd yn eu blaenau ac y byddai’r cytundebau’n cael eu tynnu’n ôl os nad oedden nhw'n arwyddo o fewn tair awr.

'Gosod sylfaen i'r dyfodol'

“Rwy’n siarad â nifer o’r chwaraewyr, roeddwn yn ymwybodol eu bod yn cael amser caled ac yn ei chael hi’n anodd braidd yn emosiynol o ganlyniad i hynny,” meddai Hale.

"Mae wedi bod yn gyfnod anodd iddyn nhw ac o'n i'n meddwl eu bod wedi troi tudalen yn mynd i mewn i'r WXV a'u bod wedi datrys y sefyllfa, ond yn amlwg mae'n debyg nad oedd y cyfan wedi ei wneud yn y ffordd iawn."

Ychwanegodd: “Rydyn ni mewn sefyllfa wahanol i'r dynion sydd wedi cael profiad o drafod cytundebau dros eu gyrfaoedd, ond roedd yn beth newydd i ni.

"Felly pan gawsom ni ein cytundebau am y tro cyntaf roedden ni'n hapus iawn, ond yna roedden ni wir eisiau i'r broses i fod yn un lle gallwn ni osod sylfaen ar gyfer ein cytundebau wrth symud ymlaen, i arbed y genhedlaeth nesaf rhag gorfod brwydro dros bethau fel y polisi mamolaeth, ac ati."

Dywedodd URC ei fod wedi cychwyn adolygiad annibynnol o'r broses ac y bydd yn cyhoeddi'r argymhellion.

Pynciau cysylltiedig