Heddlu yn ymchwilio i 'ymddygiad amheus' y tu allan i ysgol

Ysgol Gyfun PenyrheolFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na honiad fod unigolyn wedi bod yn ymddwyn mewn modd amheus y tu allan i Ysgol Gyfun Penyrheol

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn ymchwilio i adroddiadau o "ymddygiad amheus" gan berson y tu allan i ysgol yn ardal Abertawe.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Heddlu'r De eu bod nhw wedi derbyn adroddiad fod unigolyn wedi ceisio mynd at ddisgyblion y tu allan i Ysgol Gyfun Penyrheol, Gorseinon ddydd Llun, 9 Rhagfyr.

Noda'r neges hefyd fod swyddogion wedi derbyn gwybodaeth am ddigwyddiad tebyg ar Ffordd Dulais ym Mhontarddulais dydd Iau, ond mae bellach wedi dod i'r amlwg nad oedd yr adroddiad hwnnw yn gywir.

Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r ddau ddigwyddiad, mae swyddogion wedi ymweld â'r ysgol a bydd presenoldeb yr heddlu yn amlycach yn yr ardal am gyfnod.

Dylai unrhyw un sy'n dyst i ymddygiad amheus, neu sydd ag unrhyw bryderon, gysylltu â'r heddlu.

Mae Heddlu'r De hefyd wedi galw ar bobl i beidio rhannu sïon neu ddamcaniaethau ar y cyfryngau cymdeithasol gan fod hynny yn gallu arwain at achosi pryder a dryswch diangen.

Pynciau cysylltiedig