Tri athro wedi'u hanafu gan gyn-ddisgybl - heddlu
- Cyhoeddwyd
Cafodd tri athro ysgol uwchradd eu hanafu mewn ymosodiad honedig gan gyn-ddisgybl yn ei arddegau.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i ddigwyddiad yn Ysgol Uwchradd Casnewydd ddydd Mawrth.
Cafodd dau athro eu trin am fân anafiadau, ac fe aeth athro arall i'r ysbyty fel rhagofal, meddai'r llu.
Fe achosodd y cyn-ddisgybl ddifrod i eiddo'r ysgol ac i geir, meddai'r heddlu, ac fe aeth yr ysgol i "lockdown" am gyfnod.
Dywedodd Cyngor Casnewydd fod y digwyddiad wedi "peri gofid mawr i staff a disgyblion, yn enwedig y rhai a welodd y digwyddiad".
Dywedodd llefarydd nad oedd tystiolaeth fod cyllell wedi'i defnyddio, ac na chafodd unrhyw arf ei ddefnyddio yn y digwyddiad.
"Rydym yn cymryd diogelwch ysgolion o ddifrif ac, mae gennym ystod o fesurau ar waith, ond mae adolygiad yn cael ei gynnal i weld a ellid cymryd unrhyw ragofalon pellach," meddai.
Mae ymholiadau'r heddlu yn parhau.