Oedi ar drenau yng Nghymru wedi nam yn y system gyfathrebu
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl oedi ar sawl rheilffordd ar draws Cymru ddydd Gwener wedi i nam effeithio ar y rhwydwaith cyfathrebu ledled y DU.
Mewn datganid dywedodd Trafnidiaeth Cymru: "Oherwydd nam ar y system radio rhwng y gyrrwr a'r signalwr, mae pob llinell wedi'u hamharu."
Gall gwasanaethau trên sy'n rhedeg ar draws rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru gyfan gael eu gohirio neu eu diwygio, medden nhw.
Mae'r llinell rhwng Pwllheli a Machynlleth wedi bod ar gau fore Gwener.
Roedd disgwyl hefyd i'r llinell rhwng Aberystwyth a'r Amwythig fod ar gau tan o leiaf 10:00.
Yn ôl Network Rail: "Mae trenau ar draws y rhwydwaith yn gorfod cychwyn eu teithiau yn ddiweddarach oherwydd y nam yma ac efallai y bydd rhai yn cael eu canslo neu newid.
"Rydym yn cynghori teithwyr i wirio cyn iddynt deithio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd28 Medi