Beiciwr modur, 21, wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae beiciwr modur, 21 oed, wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A490 ym Mhowys brynhawn ddydd Sul.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar y ffordd rhwng Y Trallwng a Chegidfa am 13:45 ar 15 Rhagfyr.
Bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Mae teulu'r beiciwr modur wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.