'Gallai pobl farw' ar ôl i gynllun dibyniaeth cyffuriau ddod i ben

Dywedodd Sioned Hughes, o'r elusen, fod gwasanaethau fel Dechrau Newydd yn "safio bywydau".
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sioned Hughes fod gwasanaethau fel Dechrau Newydd yn arbed bywydau

  • Cyhoeddwyd

Mae elusen wedi rhybuddio y gallai pobl farw yn sgil penderfyniad i gael gwared ar gynllun sy'n rhoi cymorth i bobl sydd â dibyniaeth cyffuriau.

Daeth cynllun Dechrau Newydd i ben fis diwethaf, gyda Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn dweud fod y penderfyniad wedi'i wneud ar ôl "adolygiad trylwyr o ofynion y gwasanaeth".

Ond mae elusen Kaleidescope, a fuodd yn darparu gwasanaethau, yn dweud y gallai'r bwlch yn y system arwain at farwolaethau ac maen nhw'n pryderu y gallai pobl gymryd gor-ddosau.

Mae'r comisiynydd, Andy Dunbobbin, yn gwadu hynny gan ddweud mai'r bwriad ydy creu gwasanaeth ar gyfer y dyfodol.

'Colli 20 swydd hefyd'

Ers dechrau pum mlynedd yn ôl, bu Dechrau Newydd yn canolbwyntio ar gynnig help i bobl bregus sydd â dibyniaeth cyffuriau yn y gogledd.

Roedd y cynllun yn cefnogi pobl sy'n gadael y carchar, yn cynnig therapi cyffuriau llai niweidiol fel methadon ac yn annog adferiad cleifion sy'n cael eu cyfeirio.

Ond fe gyhoeddodd swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru fod y gwasanaeth yn dod i ben ddiwedd Mawrth eleni.

Dywedodd fod y penderfyniad hwnnw wedi'i wneud ar y cyd gan y comisiynydd, y gwasanaeth carchardai a phrawf a bwrdd cynllunio'r ardal.

methadonFfynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dechrau Newydd yn cefnogi pobl sy'n gadael y carchar ac yn cynnig therapi cyffuriau llai niweidiol fel methadon

Dywedodd Sioned Hughes, o'r elusen, fod gwasanaethau fel Dechrau Newydd yn "safio bywydau".

"Heb nhw mae 'na siawns y bydd pobl yn marw a dyna yw prif boen fi," meddai.

"Da ni'n safio bywydau yng ngogledd Cymru a beth sy'n mynd i ddigwydd nesa, lle maen nhw yn mynd i fynd pan does 'na ddim system mewn lle?

"Ac os mai'r unig system sydd yna i helpu ydy'r heddlu – dydi hynny ddim yn digon da."

Yn ôl Sioned Hughes, mae'r penderfyniad hefyd yn golygu y bydd 20 o bobl oedd "hefo profiad byw" yn colli eu swyddi.

Arfon Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Arfon Jones, y cyn-gomisiynydd, ei fod yn siomedig bod y cynllun yn dod i ben

Yn ôl ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae opiodau wedyn cyfrannu at fwy o farwolaethau yng Nghymru y llynedd nag unrhyw sylwedd arall - 125 o farwolaethau ar gyfartaledd.

Tra bod swyddfa'r comisiynydd yn dweud mai'r flaenoriaeth ydy sicrhau darpariaeth newydd ar gyfer gwasanaethau ymyrraeth cyffuriau, mae'r dyn fuodd yn y rôl cyn Andy Dunbobbin hefyd wedi mynegi pryder.

"Pa bynnag ffordd da chi'n sbio arnyn nhw, pobl fregus ydyn nhw a dydyn nhw ddim yn dewis mynd yn gaeth i gyffuriau," meddai Arfon Jones.

Roedd y cyn-gomisiynydd yn "siomedig iawn" i glywed y byddai'r cynllun yn dod i ben ar ôl iddo gomisiynu'r gwasanaeth pan oedd wrth y llyw.

"Y broblem ydy mae gen ti gormod o fysedd yn y frywes; y bwrdd iechyd, y gwasanaeth prawf, heddlu'r gogledd, y comisiynydd a hefyd Kaleidescope a 'di o ddim am weithio efo gymaint â hynny wrthi.

"Does dim dwywaith mi fydd 'na fwlch yn y ddarpariaeth ac mae 'na fwlch i bobl fregus gan obeithio'n arw na neith neb farw o gymryd gor-ddos."

Mewn cyfweliad efo Newyddion S4C, dywedodd Andy Dunbobbin bod y cytundeb wedi dod i ben er mwyn cynnal adolygiad o'r gwasanaethau.

"Nid dyma ddiwedd cefnogaeth ond cyfle i adolygu," meddai.

"'Dan ni wedi ymrwymo i helpu pobl sydd yn dibynnu ar gyffuriau ac mae'n rhan ganolog o'n gwaith ar gyfer y dyfodol."

Ychwanegodd: "Fydd yna ddim bwlch [yn y gwasanaeth]. Yng ngogledd Cymru mae gynnon ni bartneriaethau cryf a bydd hynny'n sicrhau y bydd modd helpu y rhai sydd â dibyniaeth."

Dywedodd nad oedd honiad Kaleidsecope y gallai pobl farw yn sgil y penderfyniad yn "ddefnyddiol" ac y gallai achosi pryder i bobl sydd â dibyniaeth.

Mae dogfennau swyddfa'r comisiynydd yn nodi bod tanwariant o £400,000 ar y cynllun, a bydd cyfle yn y dyfodol i benderfynu ar ddefnydd y cyllid hwnnw, meddai Mr Dunbobbin.

Mae'n dweud mai'r flaenoriaeth rŵan ydy edrych ar greu gwasanaeth ar gyfer y dyfodol wrth adolygu gwasanaethau.

Pynciau cysylltiedig