Defnydd o gyffuriau gwrth-iselder wedi treblu dros 20 mlynedd

Disgrifiad,

Mae angen chwalu unrhyw stigma wrth ddefnyddio tabledi gwrth-iselder, meddai Gethin Bennett

  • Cyhoeddwyd

Fe ddechreuodd Gethin Bennett gymryd tabledi gwrth-iselder ar ôl dioddef yn sgil hunanladdiad ei dad.

"Mae lot o bobl yn meddwl bod iselder yn dristwch, bo' chi'n drist, llefen drwy'r amser ond o'dd e ddim fel 'na i fi - o'dd e'n numb," meddai.

"Doedd dim lot o deimlad un ffordd neu'r llall."

Cafodd dros saith miliwn o bresgripsiynau eu rhoi yng Nghymru ar gyfer gwrth-iselder yn 2022-23, o gymharu â 2.1m yn 2002-03.

Mae Mind Cymru wedi galw am weithredu brys ac mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod strategaeth iechyd meddwl newydd yn cael ei chyhoeddi'n y gwanwyn.

'Cuddio' rhywioldeb

Dywedodd Geth, 32, ei fod wedi mynd i'r afael â'r iselder a'r pryder roedd yn teimlo am golli ei dad a hefyd ei rywioldeb tra'n ei 20au cynnar.

"Pan o'n i'n ifanc, o'n i ddim ym deall beth oedd iselder, o'n i'n gwybod bod e'n isel a bod ei mood e wedi newid tamed bach ond pan ti'n ifanc ti ddim yn deall pethe mor gymhleth â hyn," meddai.

Ar ôl gorffen yn y brifysgol, cafodd Geth sesiynau cwnsela a chyn hynny dywedodd ei fod yn "cuddio" ei rywioldeb fel dyn hoyw.

"O'n i'n cuddio pwy o'n i – a ma' hwnna'n amlwg yn mynd i gael effaith ar fel ti'n teimlo, fel ti'n byw a trwy'r cwnsela o'n i wedi darganfod bod e'n rhan enfawr o'n iselder."

Bellach mae Geth, sy'n byw yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg, yn rheoli ei iselder trwy feddyginiaeth ac yn gwneud ymarfer corff rheolaidd.

Mae'n rhedeg hanner marathonau gyda'i bartner Jack i godi arian i elusennau ac mae'n awyddus i herio unrhyw stigma ynghlwm â iechyd meddwl.

Dr Phil White
BBC Cymru
“Yn arbennig dwi wedi gweld y to ifanc, plant a phobl yn eu harddegau yn dwad i ngweld i efo iselder ysbryd”
Dr Phil White
Meddyg teulu a dirprwy gadeirydd cyngor Cymru y BMA
"“Yn arbennig dwi wedi gweld y to ifanc, plant a phobl yn eu harddegau yn dwad i ngweld i efo iselder ysbryd”", Source: Dr Phil White , Source description: Meddyg teulu a dirprwy gadeirydd cyngor Cymru y BMA , Image: Dr Phil White

Mae Dr Phil White yn feddyg teulu ac yn ddirprwy gadeirydd cyngor Cymru o'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA).

Dywedodd bod tua 30% o lwyth gwaith meddygon teulu yn delio â phroblemau iechyd meddwl, a'i fod wedi gweld cynnydd yn nifer y cleifion sy'n dioddef.

"Yn arbennig dwi wedi gweld y to ifanc, plant a phobl yn eu harddegau yn dŵad i ngweld i efo iselder ysbryd," meddai.

"A deud y gwir yn y dwy, dair blynedd diwetha' 'ma dwi byth 'di 'neud cymaint o referrals i'r gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc â dwi wedi 'neud yn yr 20 mlynedd cynt."

'Costau byw'

Mae Mind Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sylweddol sy'n dangos gostyngiad yn llesiant iechyd meddwl y boblogaeth.

"Ma' bywyd yn gymhleth ar hyn o bryd, costau byw wedi cynyddu, y sefyllfa economaidd wedi dirywio," meddai Nia Evans o'r elusen.

Dywedodd bod y sefyllfa o gasglu data yng Nghymru yn "eitha gwael".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nia Evans o Mind Cymru yn dweud bod angen gwelliant mawr i'r data sy'n cael ei gasglu

Mae Mind Cymru bellach wedi galw ar Lywodraeth Cymru i arwain ymdrech genedlaethol i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol iechyd meddwl gwael.

"Mae'r adroddiad 'da ni wedi lansio yn adroddiad iechyd meddwl mawr, dyma'r un o'r unig adroddiadau sy'n tynnu'r data sydd ar gael gyda'i gilydd fel bod spotlight i gael ar iechyd meddwl," meddai Ms Evans.

"O ran y data fi'n credu bod angen edrych ar pa fath o ddata ry'n ni'n recordio, pa fath o ddata ry'n ni'n cyhoeddi, y data yn enwedig o ran inequalities - ma' hwnna'n wael ar y foment – mae wedi cael ei bwysleisio i Lywodraeth Cymru bod angen gwelliant mawr."

Lleihau'r angen

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, sy'n cynnwys cymorth brys ar wasanaeth 111.

Ychwanegodd bod therapi ymddygiad gwybyddol yn cael ei ddarparu ar-lein heb yr angen i gael atgyfeiriad gan weithiwr iechyd proffesiynol.

"Ein hagwedd hirdymor yw lleihau'r angen am wasanaethau arbenigol drwy atal ac ymyrryd yn gynt," meddai.

"Bydd hyn yn cael ei nodi yn ein Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles newydd a fydd yn cael ei chyhoeddi yn y gwanwyn."

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan gynnwys yr erthygl yma, mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Pynciau cysylltiedig