'Siom' bod gwasanaeth sy'n delio â stigma iechyd meddwl yn dod i ben

Ffion Connick
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion Connick, 23 o Rydaman, wedi dioddef gyda heriau iechyd meddwl ers yn ifanc

  • Cyhoeddwyd

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i ariannu gwasanaeth iechyd meddwl yn "achos pryder sylweddol", yn ôl elusen.

Mae Adferiad, elusen iechyd meddwl flaenllaw, yn rhybuddio bod hynny'n "risg enfawr" i iechyd pobl.

Nod gwasanaeth Amser i Newid Cymru ydi mynd i'r afael â stigma iechyd meddwl gan annog pobl i drafod eu teimladau a'u profiadau.

Yn ôl y llywodraeth, dydi eu hymrwymiad i fynd i'r afael â stigma sydd ynghlwm â iechyd meddwl heb newid.

Cafodd y gwasanaeth ei lansio yn 2012 ac yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn rhedeg fel partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl Mind Cymru ac Adferiad.

Fe fydd yn dod i ben ddiwedd y mis gan nad yw wedi "sicrhau cyllid parhaol y tu hwnt i'r cyfnod presennol hwn".

Mae Ffion Connick, 23 o Rydaman, wedi dioddef gyda heriau iechyd meddwl ers yn ifanc, gan gynnwys gorbryder ac anhwylder bwyta.

"Mae'n dorcalonnus," meddai.

"Wythnos yma ni'n cofio pum mlynedd ers dechrau Covid ac un o'r sgil effeithiau mwyaf sydd wedi dod allan o hwnna yw pandemig newydd o broblemau iechyd meddwl… ble mae'r synnwyr yn cael gwared ar raglen fel yma pan mae eisiau hyn arnom ni yn fwy nag erioed?"

'Rhaglen amhrisiadwy'

Mae Alun Thomas, Prif Weithredwr Adferiad, yn dweud ei fod yn cydnabod yr heriau ariannol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru.

Ond ychwanegodd bod cau'r rhaglen "sydd wedi bod yn llwyddiannus yn gyson, heb gynnig cynllun i'r dyfodol, yn peri risg anferthol i iechyd a lles pobl â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru".

Mae'r penderfyniad i beidio parhau i'w hariannu yn "bryder sylweddol i nifer o bobl sy'n parhau i wynebu stigma a gwahaniaethu oherwydd eu hiechyd meddwl".

Rhannu'r pryderon hynny mae Cyfarwyddwr Mind Cymru, Sue O'Leary.

Dywedodd fod gwaith y rhaglen wedi bod yn amhrisiadwy, yn "helpu unigolion, cyflogwyr a chymunedau drwy Gymru".

"Bydd diwedd Amser i Newid Cymru," meddai, yn "gadael bwlch sylweddol wrth i ni geisio cydlynu a gweithio i daclo stigma".

Mae'r ddwy elusen am wybod beth yw cynllun y llywodraeth  i lenwi'r bwlch sy'n cael ei adael.

Llyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n siom fod fod cynlluniau fel hyn yn dod i ben, meddai Llyr Huws Gruffydd AS

Dros ddegawd yn ôl fe wnaeth AS Plaid Cymru, Llyr Huws Gruffydd, siarad am ei heriau iechyd meddwl yn y siambr.

"Mae rhannu profiad yn ysgafnhau'r baich ac mi oedd e mor bwysig i fi wrth wella," meddai.

"Dyna yw'r siom wedyn pan fod cynlluniau fel hyn sydd yn annog y sgyrsiau yna ac sy'n chwalu'r tabŵ o gwmpas iechyd meddwl yn cael eu torri a'r cyfan mae'n wneud wrth gwrs yw golygu y bydd yna fwy o gost i'r gwasanaeth iechyd a'r wladwriaeth les yn y pen draw."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n ddiolchgar am yr holl waith mae Mind Cymru wedi ei wneud i ddarparu rhaglen Amser i Newid Cymru dros y 12 mlynedd diwethaf.

"Dydi ein hymrwymiad i fynd i'r afael â stigma sydd ynghlwm ag iechyd meddwl, hunanladdiad a hunan niweidio heb newid ac fe fyddwn yn gweithio gyda'r trydydd sector a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu ein cynllun yn y dyfodol."

Os yw cynnwys y stori hon wedi effeithio arnoch mae cymorth ar gael ar Action Line y BBC