Lle oeddwn i: 25 mlynedd ers y ffilm Oed yr Addewid

Stewart Jones a Gwenno Elis Hodgkins Ffynhonnell y llun, Archif Sgrin a Sain
  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n 25 mlynedd ers rhyddhau'r ffilm Oed yr Addewid, sy'n dilyn stori William Davies sy'n teimlo ei fod wedi cael ei adael i lawr gan y llywodraeth yn ei henaint.

Enillodd y ffilm dair gwobr BAFTA Cymru yn 2002, gan gynnwys gwobr y ffilm orau.

I nodi'r pen-blwydd, mae'r ffilm yn cael ei hail-ddangos mewn sinemâu ledled Cymru. BBC Cymru Fyw sydd wedi cael gair gydag ysgrifennwr a chyfarwyddwr Oed yr Addewid, Emlyn Williams, am ei atgofion:

Stewart JonesFfynhonnell y llun, Archif Sgrîn a Sain
Disgrifiad o’r llun,

Stewart Jones oedd yn portreadu'r prif gymeriad, William Davies

Ysbrydoliaeth

Beth ysgogodd fi i sgwennu'r stori yn y lle cyntaf oedd marwolaeth fy nhad. Cafodd fy nhad strôc enfawr ar 1 Mawrth 1995, a bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach.

Roedd fy nhad yn sosialydd drwy gydol ei oes ac roedd o mor stowt efo'r Torïaid oedd mewn grym yr adeg honno. Roedd o'n digalonni am y ffordd oedden nhw'n trio preifateiddio pob dim, yn enwedig iechyd a gofal yr henoed. Ac yn teimlo ei fod o wedi cael cam bersonol a bod ei genhedlaeth o 'di cael cam.

Roedd hwnna'n mynd ymlaen yn fy mhen i ar ôl claddu fy nhad.

Gwyn Vaughan, Marged Esli, Gwenno Elis Hodgkins ac Arwel GruffyddFfynhonnell y llun, Archif Sgrîn a Sain
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant William - John (Gwyn Vaughan), Maureen (Gwenno Elis Hodgkins) ac Alun (Arwel Gruffydd) - yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn â gofal eu tad

Chwech wythnos ar ôl iddo farw, ges i wahoddiad i gyfarwyddo drama deledu yn y gogledd. O'dda ni'n ffilmio tu allan i gartref preswyl i'r henoed ar y ffordd rhwng Porthmadog a Chricieth. O'dd hi'n ddiwrnod poeth ac o'dd y ffenestri i gyd yn 'gorad, ond roedd 'na fariau ar y ffenestri – i nadu pobl oedd yn diodde' efo Alzheimer's rhag dengyd.

Dyma fi'n clywed llais egwan, hynafol yn deud 'Tydw i ddim i fod yn fan hyn'. Mi aeth drwydda i.

Dyma fi'n ei sgwennu o ar gefn paced sigaréts, jyst y linell yna. Mi lynodd yn fy meddwl i, a feddyliais i 'mae 'na ddrama yn hwn'. Felly ddechreuodd y peth.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ddaeth y Blaid Lafur i rym. Mi fydda Dad wedi bod wrth ei fodd fod y Torïaid wedi eu disodli o'r diwedd.

O'n i'n teimlo rhyw dristwch mewnol nad oedd o yno i dystio'r ffaith bod ni 'di llwyddo i gael gwared arnyn nhw o'r diwedd. A dicter am wn i... mae hwnna'n rhywbeth sydd yn ysgogi dyn i ysgrifennu weithiau; mod i isho sgwennu ar ei ran o, ac ar ran ei genhedlaeth o.

'Croesi ffiniau'

Aethon ni drwy'r broses o gael arian datblygu gan S4C. Mi gafodd Alun Ffred, y cynhyrchydd, a finnau wahoddiad i fynd i Amsterdam ar gwrs, am bod nhw wedi licio'r syniad.

Dwi'n cofio'r dyn oedd yn rhedeg y cwrs yn dweud: 'You have a very good idea here. Why are you doing it in Welsh? Why aren't you doing it in English?'

Dyma ni eto! Gweld y basan ni'n medru cael mwy o arian oedd o, a bod 'na botensial masnachol yn y ffilm.

O'n i'n teimlo ei bod hi'n stori oedd yn croesi ffiniau, a doedd dim ots ym mha iaith oedd o. Digwydd bod yn Gymry Cymraeg oedden nhw, digwydd byw yng nghefn gwlad Pen Llŷn.

Emlyn Williams, Wil Sam a Stewart Jones Ffynhonnell y llun, Emlyn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Emlyn Williams, Wil Sam a Stewart Jones yn ystod y cyfnod ffilmio

O'n i wedi sgwennu'r stori ar gyfer Stewart Jones – fo oedd gen i mewn golwg o'r cychwyn fel Wil Davies.

Y broblem oedd, erbyn i ni gael y drafft olaf, roedd Stew wedi bod yn sâl – wedi cael llawdriniaeth go hegar a radiotherapi. Anfonodd Ffred y sgript ato fo, ac aethon ni draw i'w weld o. "Da chi'n meddwl eich bod chi ddigon tebol i gymryd y rhan?" "Ydw tad" – er ei fod o ddim, o'dd o'n sâl.

Ond meddai o wedyn, roedd y ffaith ei fod o'n wael wedi ychwanegu rhywbeth at y cymeriad – fod ei wendid corfforol wedi rhoi rhywbeth ychwanegol iddo fo, fel actor.

Gwobrau BAFTA

Enillodd BAFTA Cymru am y sgript orau, y ffilm orau a'r perfformiad gorau i Stew.

Beth sy'n gadarnhaol efo gwobrau fel BAFTA ydi mai'r busnes ei hun sydd yn dewis, ac mae'n siŵr ei fod o wedi taro deuddeg. O'n i'n bles dros y ffilm ac o'n i'n bles ofnadwy dros Stewart, am ei fod o di bod yn wael pan o'dd o'n gneud y ffilm, a'i fod o 'di mentro.

Arwel Gruffydd a Stewart JonesFfynhonnell y llun, Archif Sgrîn a Sain
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Arwel Gruffydd a Stewart Jones wobrau am eu perfformiadau yn Oed yr Addewid

Enillodd wobrau yn Ffrainc a Sbaen hefyd, ac mi gafodd ei dangos mewn dwy ŵyl ffilm yn UDA. O'n i'n bresennol yn un ohonyn nhw, yn Palm Springs. O'dd hi'n glamp o awditoriwm fawr, ac o'dd y lle dan ei sang. Roedd ganddyn nhw ddiddordeb; wrth gwrs, mae'r testun - clefyd Alzheimer's - yn croesi ffiniau, ieithyddol, gwleidyddol, daearyddol... dydi o ddim yn gneud gwahaniaeth.

O'n i wedi gobeithio y basai hi'n cael cynulleidfa ehangach am ei fod am bwnc sy'n gallu ein cyffwrdd ni i gyd, boed yn dioddef efo'r clefyd neu yn gofalu ar ôl rywun.

25 mlynedd yn ddiweddarach

'Swn i'n licio meddwl ei bod hi'n berthnasol heddiw, yn yr ystyr, bod 'na ddim byd wedi newid; os rywbeth, mae hi'n waeth nag y buodd hi yr adeg hynny, o ran ariannu gofal i'r henoed. Mae popeth yn cael ei breifateiddio.

Er bod y byd wedi newid, mae'r broblem yn parhau i fod. Mae hi'n iawn os ydach chi'n gyfoethog, ond Duw â'ch helpo chi os ydych chi ddim.

Dyna sydd yn torri fy nghalon i, fod yr hyn a wnaeth Aneurin Bevan yn 1948 wedi ei danseilio, nid yn unig gan Margaret Thatcher ond y rheiny sydd wedi ei dilyn hi. Mae'n gywilydd o beth yn fy marn i.

Oed yr AddewidFfynhonnell y llun, Archif Sgrîn a Sain

Mae'n beth od, fydda i ddim yn mwynhau fy ngwaith pan mae o'n mynd allan ar ôl ei orffen o; tydw i ddim yn gyfforddus o gwbl yn ei wylio fo.

Ond os 'di o'n mynd allan wedyn, fel hwn, 25 mlynedd yn ddiweddarach, dwi'n eitha mwynhau bod yn y gynulleidfa – nid fel Emlyn Williams y cyfarwyddwr, ond Emlyn Williams sy'n mynd i'r pictiwrs!

Dwi'n eitha balch ohono fo fel tamaid o waith. Dwi 'chydig bach yn hallt efo fi fy hun weithiau, ond tydw i ddim yn teimlo hynny am Oed yr Addewid – er bod 'na wallau ynddi, a phethau 'swn i'n eu gwneud yn wahanol o ran y cyfarwyddo, yn gyffredinol 'swn i'n licio meddwl ei bod hi'n sefyll i fyny'n o lew. Amser a ddengys!

  • Mae Oed yr Addewid yn cael ei dangos yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar 30 Ebrill, yn Theatr Gwaun, Abergwaun ar 11 Mai ac yn Galeri, Caernarfon ar 13 a 14 Mai – gyda mwy o ddangosiadau ledled y wlad i'w cadarnhau.

Pynciau cysylltiedig