Colin Jackson: 'Anhwylderau bwyta wnaeth arwain at fy ymddeoliad'

Colin Jackson
Disgrifiad o’r llun,

"'Da chi byth yn cael gwared ar orbryder - dysgu i fyw gyda fe chi'n 'neud," medd Colin Jackson

  • Cyhoeddwyd

Mae Colin Jackson yn dweud mai byw ag anhwylderau bwyta yn ystod ei yrfa a arweiniodd at ei ymddeoliad fel athletwr proffesiynol.

Mae'r cyn-athletwr Olympaidd yn credu y gall llwyddiant ym myd chwaraeon yn aml guddio'r "effeithiau corfforol a meddyliol" sy'n deillio o gystadlu ar y lefel uchaf.

Wrth rannu ei brofiad o fyw â Bulimia, dysmorffia'r corff a gorbryder, mae'n annog dynion eraill i siarad am eu hiechyd meddwl.

Tra'n cydnabod bod mwy i'w wneud, mae Chwaraeon Cymru yn dweud eu bod wedi dysgu o brofiadau athletwyr.

Colin Jackson yn Birmingham yn 2003Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jackson ymddeol ym Mhencampwriaethau Dan Do'r Byd yn Birmingham yn 2003

Yn bencampwr Ewropeaidd, y Gymanwlad a'r byd, roedd Colin Jackson yn cael ei gydnabod fel un o'r goreuon yn ei gamp, ac yn arbenigo yn ras y 110m dros y clwydi.

"O fewn athletau a chwaraeon gall eich llwyddiant gael ei ddathlu heb i bobl ddeall y daith rydych chi wedi'i chymryd i gyrraedd yno, yn gorfforol ac yn feddyliol," meddai.

"Pan oedd gen i'r holl anhwylderau bwyta roedd hynny'n gysylltiedig, ac wrth ddelio â hynny a bod yn bencampwr, dyna 'naeth arwain yn y diwedd at fy ymddeoliad a fy ngorbryder."

'Byth yn cael gwared ar orbryder'

Ers ei ymddeoliad ym 2003, mae Jackson yn dweud ei fod wedi gorfod dysgu i fyw gyda gorbryder.

"'Da chi byth yn cael gwared ar orbryder - dysgu i fyw gyda fe chi'n 'neud.

"Ond dwi ond wedi dysgu i wneud hynny drwy gael help a siarad ag eraill am fy mhrofiad."

Trwy rannu ei brofiadau ei hun a bod yn rhan o ymgyrch sefydliad iechyd meddwl SPARK, mae'n gobeithio annog dynion o bob oed i siarad yn agored am y pwnc.

Cole, Kaylan a Tygan
Disgrifiad o’r llun,

Cole, Kaylan a Tygan gyda'u clwb athletau lleol - Harriers Caerfyrddin

Yn cystadlu gyda'u clwb athletau lleol Harriers Caerfyrddin, mae Cole, Kaylan a Tygan yn credu bod iechyd meddwl yr un mor bwysig ag iechyd corfforol.

"Ma' llawer mwy o bwyslais ar iechyd meddwl," meddai Cole.

"Ma' gyda fi arholiadau a gwaith cwrs ar hyn o bryd felly ma' athletau wir yn helpu i dynnu'r pwysau oddi ar y gwaith yna, a rhoi'r cyfle gwerthfawr yna i drafod gyda ffrindiau."

Wrth ddychwelyd o anaf, mae Tygan hefyd yn credu fod iechyd corfforol a meddyliol yn mynd law yn llaw.

"Heb allu ymarfer, mae lot mwy o straen ac mae'n galed dod yn ôl hefyd, a'r poen meddwl eich bod chi'n gallu cael anaf arall," meddai.

Ychwanegodd Kaylan: "Dwi wedi rhoi gormod o bwysau ar yn hunan yn y gorffennol, ond mae'n bwysig wrth gystadlu i beidio rhoi gormod o bwysau ar eich hunan."

Colin Jackson yn gosod record byd newydd o 12.91 eiliad yn ystod Pencampwriaethau Athletau'r Byd yn Stuttgart, yr AlmaenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gosododd Colin Jackson record byd newydd o 12.91 eiliad yn ystod Pencampwriaethau Athletau'r Byd yn Stuttgart yn 1993

Yn ôl elusen Mental Health Matters Wales, mae'n "anodd cael dynion i siarad".

"Ma' llawer yn teimlo pwysau i deimlo'n gryf a chadw popeth i'w hunan, ond gall hynny yn y pendraw arwain at argyfwng," meddai Nia Jones o'r elusen.

"Nid gwendid yw siarad - mae'n gryfder a gall achub bywydau."

'Mwy i'w wneud'

Tra'n dweud bod "gwersi wedi'u dysgu", mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod fod mwy i'w wneud o hyd.

"Rydyn ni wedi sylweddoli, trwy brofiadau drwg rhai athletwyr, nad oedd digon o sylw yn cael ei roi i'w iechyd meddwl yn ogystal â'u hiechyd corfforol yn y gorffennol," meddai llefarydd.

"Rydyn ni'n rhoi pethau mewn lle i gywiro hynny, gan weithio i gael y cydbwysedd cywir rhwng iechyd meddwl a chorfforol.

"Ond mae 'na waith i'w wneud o hyd."

Os yw cynnwys y stori yma wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.