Alun Owen: Dirwy o £1.34m i Openreach ar ôl marwolaeth gweithiwr

Alun Owen Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd cwest fod Alun Owen, oedd yn cael ei adnabod fel Al Bonc, wedi marw o ganlyniad i foddi

  • Cyhoeddwyd

Mae Openreach wedi cael dirwy o £1.34m ar ôl i un o weithwyr y cwmni foddi mewn afon oedd wedi gorlifo.

Bu farw Alun Owen, 32, yn 2020 ar ôl cael ei ddanfon i weithio ar linell ffôn cwsmer ym mhentref Abergwyngregyn, ger Bangor.

Roedd llifogydd wedi bod yn yr ardal ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth.

Yn Llys Ynadon Llandudno, fe blediodd cwmni Openreach yn euog i dorri cyfraith iechyd a diogelwch i weithwyr a oedd yn gweithio yn agos at ddŵr.

Clywodd y llys fod y tad i ddau wedi ei alw allan i dŷ cwsmer yn Abergwyngregyn wedi iddyn nhw ganfod problem ar un o'r llinellau oedd yn croesi'r afon.

Fe wnaeth Mr Owen geisio cerdded drwy'r afon er mwyn gosod llinell newydd ar yr ochr arall, gyda dŵr hyd at ei bengliniau.

Fe glywodd y llys iddo lithro a chael ei gario i ffwrdd gan lif yr afon.

Cafodd ymgyrch chwilio enfawr ei lansio, a chafodd corff Mr Owen ei ddarganfod yn yr afon y noson honno, tua 270m i ffwrdd.

Polisïau 'heb gael eu dilyn'

Fe glywodd cwest a gafodd ei ohirio fod Mr Owen, oedd yn dod o Fethesda ac yn cael ei adnabod fel Al Bonc, wedi marw o ganlyniad i foddi.

Clywodd y llys, er bod gan Openreach bolisïau ynghylch gweithio yn agos at ddŵr, nid oedd y polisïau yna wedi eu dilyn y tro hwn.

Dywed Nathan Cook, o'r uned Iechyd a Diogelwch, na ddylai unrhyw beiriannydd fod wedi bod yn gweithio ar ben ei hun yn agos at ddŵr, ac y dylai trefniadau diogelwch penodol fod wedi eu cytuno gyda'r swyddogion.

Fe glywodd y llys nad oedd Mr Owen wedi cyflawni cwrs ar-lein am weithio ar ddŵr.

'Ni fydd ein teulu fyth yr un fath'

Dywedodd gweddw Mr Owen, Ceri, fod marwolaeth ei gŵr yn "golled enfawr i bawb".

"Roedd colli Al wedi cael effaith sylweddol ar y teulu cyfan. Roedd yn drawmatig iawn," meddai.

Dywedodd bod ei farwolaeth wedi effeithio ar ei hiechyd a'i bod wedi cael pyliau o banig a cholli pwysau.

Ychwanegodd bod ei dwy ferch hefyd wedi cael profiad o or-bryder.

"Roedden nhw'n poeni'n fawr y byddai rhywbeth yn digwydd i mi gan ei fod wedi digwydd i'w tad," meddai.

"Ni fydd ein teulu fyth yr un fath."

Cafodd datganiad ar ran mam Mr Owen ei ddarllen yn y llys gan ei chwaer, Lowri.

"Mae colli Al wedi fy newid fel person. Dwi'n meddwl amdano pob munud o bob dydd," meddai.

"Dwi wastad ac mi fyddai am byth wedi torri 'nghalon."

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cwest i'r casgliad fod Mr Owen wedi marw o ganlyniad i foddi

Dywed Dominic Kay KC ar ran Openreach fod y cwmni eisiau datgan ei "edifeirwch gwirioneddol am yr hyn a ddigwyddodd".

Eglurodd hefyd fod Prif Weithredwr Openreach, Clive Selley, wedi ymddiheuro am fethiannau yn dilyn marwolaeth Mr Owen.

Roedd hyn yn cynnwys peidio rhoi pris gostyngol i'r teulu am eu gwasanaethau band eang gan nad oedd Mr Owen bellach yn gweithio i'r cwmni.

Mewn digwyddiad arall, fe wnaeth y cwmni ddefnyddio llun priodas Mr Owen fel rhan o astudiaeth achos ar gyfer hyfforddiant iechyd a diogelwch newydd, heb ofyn am ganiatâd y teulu.

"Dwi wedi fy nhristáu fod Openreach wedi cyfrannu at y galaru a'r dioddef," meddai Mr Selley.

Y gosb 'ddim yn lleihau'r boen'

Dywed y barnwr, Gwyn Jones, fod angen i lefel y ddirwy gael effaith economaidd ar y cwmni, fel nad yw iechyd a diogelwch yn cael ei weld fel rhywbeth dewisol.

Nododd ei fod yn cydnabod fod yna ffactorau lliniarol, gan gynnwys ple euog, ac edifeirwch gan y cwmni.

Fe orchmynnodd i Openreach dalu dirwy o £1.34m a chostau o £15,958.

Ychwanegodd: "Ni fydd y gosb yn lleihau'r boen a'r trawma y mae teulu Alun Owen wedi ei ddioddef."

Wrth siarad wedi'r gwrandawiad, dywedodd teulu Mr Owen, na fyddai diryw ariannol yn rhoi "unrhyw achos o gyfiawnder" iddyn nhw.

"Mae'r ddirwy sydd wedi ei orchymyn yn amherthnasol ac nid yw'n lleihau'r boen, nac yn lleihau'r gwagle sydd yma ers i Al ein gadael."

Dywed y teulu eu bod yn teimlo fod y cwmni wedi dangos "dull swrth" i hyfforddi'r rheiny sy'n gweithio yn agos at ddŵr.

"Rydym yn cydnabod bod Openreach wedi eu gorfodi i edrych ar eu problemau iechyd a diogelwch, gan obeithio na fydd unrhyw deulu arall yn gorfod dioddef y poen a'r straen sydd wedi ei greu yn sgil marwolaeth Al," meddai'r teulu.

Pynciau cysylltiedig