Gwrthdrawiad trên Powys yn teimlo fel 'breuddwyd wael'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn oedd yn teithio ar y trên a darodd yn erbyn trên arall ger Llanbrynmair nos Lun yn dweud bod y digwyddiad yn teimlo fel "breuddwyd wael".
Roedd Jonah Evans, 25, yn gwylio drama Netflix ar y pryd.
“Rhedodd y gyrwyr drwy’r drysau yn gweiddi 'paratowch eich hunain, byddwch yn barod, ni mynd i daro trên arall',” meddai Jonah.
Dim ond eiliadau oedd ganddo i baratoi ar gyfer y gwrthdrawiad.
"Yr hyn a ddaeth i'm meddwl oedd ...'ei bod wedi bod yn daith dda, mae wedi bod yn fywyd da'," meddai wrth siarad â BBC Cymru.
Bu farw Tudor Evans, 66 oed o Gapel Dewi ger Aberystwyth, wedi’r gwrthdrawiad a chafodd 15 o bobl eraill eu hanafu.
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2024
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am tua 19:30 nos Lun ar ôl adroddiadau o ddamwain cyflymder isel.
Roedd un o'r trenau yn teithio o Amwythig i Aberystwyth, a'r llall o Fachynlleth i Amwythig.
Mae'r heddlu'n credu fod y trên i gyfeiriad y gorllewin wedi taro'r trên llonydd oedd yn mynd tuag at y dwyrain.
Roedd Jonah, sy'n artist ac yn ddylunydd graffig, yn teithio nôl i'r Borth ar ôl treulio penwythnos ym Mryste yn dathlu ei ben-blwydd, pan ddigwyddodd y ddamwain.
Ar ôl i'w drên daro’r trên llonydd dywedodd ei fod yn teimlo "fel bod popeth yn symud yn araf".
Cafodd teithwyr ar wasanaeth 18:31 tua'r gorllewin o'r Amwythig i Aberystwyth, eu taflu o'u seddi. Ni chafodd Mr Evans anaf heblaw anaf atchwip (whiplash).
"Roedd gweld pawb yn ofidus yn ofnadwy... mae'n teimlo fel breuddwyd wael rywsut," meddai.
“Roedd yna un ferch yn beichio crio yn uchel, roedd hi yn eistedd ger y bwrdd ac fe gafodd ei tharo yng nghanol ei chorff a dechreuodd chwydu," meddai.
"Roedd e'n erchyll iawn."
Dywed ei fod yn cofio gweld pobl o'i gwmpas gydag anafiadau i'w asennau, roedd braich un wedi torri ac roedd person arall wedi colli rhai dannedd.
Roedd Bethan Evans, 23 o Dal-y-bont yng Ngheredigion, hefyd ar y trên oedd yn teithio o Amwythig i Aberystwyth.
Dywedodd bod ei bag wedi disgyn oddi ar y sedd, a bod y trên wedi dod i stop, ond doedd hi ddim wedi sylweddoli bod y trên wedi bod mewn damwain.
"Y peth ola' fi'n cofio, o'n i'n darllen llyfr. Dwi'n cofio droppio llyfr fi a theimlo'r brêcs ond oedd y trên yn dal i fynd yn gyflym," meddai.
Dywedodd mai cleisiau ar ei choesau yw'r unig arwyddion allanol ei bod wedi bod mewn gwrthdrawiad, ond ei bod hefyd wedi cael "pen tost a wedi bod yn sick dwywaith, fi'n credu achos bo' fi wedi bwrw pen fi".
Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) yn parhau i ymchwilio i achos y digwyddiad, a dywedodd Heddlu Trafnidiaeth nad ydyn nhw wedi sefydlu ymchwiliad troseddol hyd yma.
Mewn datganiad dywedodd yr RAIB fod eu hymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu fod y ddamwain wedi digwydd ar gyflymder o 15mya a bod asesiad o'r rheilffordd yn awgrymu fod y trên wedi llithro wrth geisio dod i stop.
Dywedodd Network Rail eu bod nhw'n gobeithio "dysgu gwersi ar unwaith" er mwyn atal unrhyw wrthdrawiadau tebyg yn y dyfodol, gan ddisgrifio'r ymchwiliad fel un "cymhleth".