Teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad trên yn diolch am y gefnogaeth
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau drên ger Llanbrynmair ym Mhowys nos Lun wedi diolch am y gefnogaeth maen nhw wedi'i dderbyn.
Roedd Tudor Evans yn 66 oed ac yn dod o Gapel Dewi ger Aberystwyth.
Roedd yn teithio adref o wyliau yn yr Eidal pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Dywedodd y teulu wrth BBC Cymru eu bod yn "ddiolchgar am yr holl negeseuon a'r gefnogaeth" ond eu bod rŵan yn gofyn am breifatrwydd.
Dydd Mawrth fe wnaeth un o swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydain awgrymu nad oedden nhw'n credu taw anafiadau o'r ddamwain oedd achos y farwolaeth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad tua 19:30 nos Lun ar ôl adroddiadau o ddamwain cyflymder isel.
Roedd un o'r trenau yn teithio o Amwythig i Aberystwyth, a'r llall o Fachynlleth i Amwythig.
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2024
Cafodd 15 o bobl eraill eu trin yn yr ysbyty wedi'r digwyddiad - pedwar ohonyn nhw am anafiadau difrifol.
Daeth i'r amlwg ddydd Mercher fod gyrrwr un o'r trenau wedi'i anafu'n "eithaf drwg" ond ei fod "bellach yn gwella'n dda o'i anafiadau", yn ôl llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru.
Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) yn ymchwilio i achos y digwyddiad, a dywedodd Heddlu Trafnidiaeth nad ydyn nhw wedi lansio ymchwiliad troseddol hyd yma.
Mewn datganiad dywedodd yr RAIB fod eu hymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu fod y ddamwain wedi digwydd ar gyflymder o 15mya a bod asesiad o'r rheilffordd yn awgrymu fod y trên wedi llithro wrth geisio dod i stop.
Dywedodd Network Rail eu bod nhw'n gobeithio "dysgu gwersi ar unwaith" er mwyn atal unrhyw wrthdrawiadau tebyg yn y dyfodol, gan ddisgrifio'r ymchwiliad fel un "cymhleth".
Bydd y rheilffordd rhwng Machynlleth ac Amwythig yn parhau ar gau tan ddiwedd yr wythnos wrth i ymholiadau barhau.