Dynes wedi anfon fideos o'i hun yn rhechu at gyn-bartner ei chariad

Rhiannon EvansFfynhonnell y llun, Andrew Price / View Finder
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Rhiannon Evans barhau i anfon fideos "anaddas" ar ôl derbyn rhybudd gan yr heddlu

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o Gaernarfon wedi cael gorchymyn cymunedol am anfon fideos o'i hun yn rhechu at gyn-bartner ei chariad.

Clywodd Llys Ynadon Caernarfon fod Rhiannon Evans, 25, wedi anfon cyfres o fideos "anaddas" at Deborah Prytherch.

Fe blediodd Evans yn euog i ymddwyn mewn modd oedd gyfystyr ag aflonyddu.

Cafodd orchymyn cymunedol am flwyddyn yn ogystal â gorchymyn atal am ddwy flynedd.

'Gwenu ar y camera'

Dywedodd yr erlyniad fod y fideo cyntaf a gafodd ei anfon yn dangos Evans yn "dal ei ffôn ger ei phen ôl ac yn torri gwynt".

Cafodd tri fideo arall ohoni yn rhechu eu hanfon dros WhatsApp ar 22 Rhagfyr, tra bod pedwar fideo tebyg wedi eu hanfon yn y dyddiau canlynol hefyd.

Roedd yr heddlu wedi rhybuddio Evans, ond fe aeth ymlaen i anfon fideos tebyg ar Ŵyl San Steffan a dydd Calan. Cafodd ei harestio yn ei chartref.

Clywodd y llys fod Evans yn pasio gwynt yn y fideos hynny, a'i bod yn "gwenu ar y camera".

Dywedodd Ms Prytherch mewn datganiad: "Hoffwn deimlo yn ddiogel yn fy nghartref fy hun."

£299 mewn costau

Yn ôl yr amddiffyniad, roedd Evans "wedi yfed alcohol cyn anfon y fideos" a'i bod hi bellach "yn deall y poen meddwl mai hi wedi ei achosi i'r dioddefwr".

"Doedd dim bwriad maleisus yn yr achos yma," ychwanegodd.

Clywodd y llys hefyd ei bod wedi cael magwraeth anodd, a'i bod wedi profi problemau iechyd meddwl.

Yn ogystal, bydd rhaid i Evans gwblhau 15 o sesiynau adsefydlu, talu cyfanswm o £299 mewn costau, a bydd lefel yr alcohol mae hi'n ei yfed yn cael ei fonitro am 60 diwrnod.