Rhoi'r gorau i brydau ysgol am ddim yn 'anghyfreithlon'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef iddyn nhw fethu â dilyn y gyfraith pan roddon nhw'r gorau i ddarparu prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau.
Honnodd dau deulu ac elusen nad oedd gweinidogion wedi ystyried yr effaith na hawliau plant.
Daeth yr achos i ben heb wrandawiad llys ar ôl i'r llywodraeth dderbyn y dylen nhw fod wedi gwneud mwy i asesu effaith y penderfyniad.
Ond dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, na allai'r llywodraeth fforddio ailgyflwyno'r prydau.
Dechreuodd y cynllun yn ystod y pandemig a chafodd ei ymestyn sawl gwaith tan fis Mehefin diwethaf. Bryd hynny, fe ysgrifennodd y llywodraeth at gynghorau lleol yn dweud na fyddai estyniadau pellach yn ystod gwyliau haf 2023.
Dadleuodd y Public Law Project fod y llywodraeth wedi methu â dilyn deddf a basiwyd gan y Senedd yn 2011 sy’n ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw roi sylw i gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant.
Roedd yr achos hefyd yn honni bod y llywodraeth wedi methu â dilyn rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 drwy beidio ag ystyried yr effaith ar bobl a oedd yn cael eu gwarchod - gan gynnwys pobl anabl, lleiafrifoedd ethnig a mamau sengl.
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2023
Fe wnaeth gweinidogion gydnabod yr effaith rai misoedd yn ddiweddarach, pan benderfynon nhw beidio ag ailgyflwyno’r prydau gwyliau ym mis Hydref 2023.
Dywedodd cyfreithiwr y prosiect, Matthew Court, fod ei gleientiaid yn teimlo bod y penderfyniad a wnaed ym mis Mehefin 2023 yn “annheg ac yn anghyfreithlon”.
"Mae gweinidogion Cymru bellach wedi cyfaddef eu bod wedi gweithredu’n anghyfreithlon, ac mae’r llys hefyd wedi datgan hynny," meddai.
Dywedodd Mr Miles fod y llywodraeth, wrth gyrraedd y setliad, yn derbyn “bod angen cwblhau rhagor o waith asesu cydraddoldeb”.
“Gan fod yr hawliad yn ymwneud â mater gweithdrefnol, nid yw’r canlyniad wedi newid: daeth y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau i ben yn 2023 gan nad yw’r cyllid ar gael, yn anffodus, o fewn y cyfyngiadau cyllidebol presennol,” meddai.
Bydd rhaid i’r llywodraeth dalu costau cyfreithiol.