Enwi dyn 22 oed fu farw yn dilyn digwyddiad ger Pontypridd

Mae'r dyn fu farw wedi ei enwi fel Liam Woolford, 22 oed o Borth, Rhondda Cynon Taf
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi enwi dyn 22 oed fu farw yn dilyn digwyddiad ar ystad yn Rhydyfelin, ger Pontypridd, ddydd Mawrth.
Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 00:40 fore Mawrth yn dilyn digwyddiad ar Poets Close, Rhydyfelin.
Bu farw Liam Woolford, o Borth yn Rhondda Cynon Taf, ar ôl cael ei anafu yn y digwyddiad.
Roedd yn un o dri o bobl yn eu hugeiniau a gafodd eu hanafu a'u trin yn yr ysbyty, ac mae'r ddau ddyn arall yn parhau i gael triniaeth.
Dywed teulu Liam: "Mae'r teulu yn meddwl am eu mab Liam yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac yn gofyn am breifatrwydd."
Mae dyn 30 oed o Rydyfelin wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac o geisio llofruddio, dyn 22 oed o Don-teg wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, tra bod dynes 20 oed o Ben-y-graig wedi'i harestio ar amheuaeth o anafu'n fwriadol.
Mae'r tri yn parhau yn y ddalfa wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl