Creu ffilm am bara-nofwraig 'ysbrydoledig' o'r Eidal

Sofia Brizio ger y pwll nofioFfynhonnell y llun, Pietro Rizzato/WPS/FINP
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Sofia Brizio barlys yr ymennydd ac roedd hyfforddi yn yr Eidal yn 'anodd' a 'rhwystredig' iddi

  • Cyhoeddwyd

Mi adawodd Sofia Brizio ei thref enedigol yn yr Eidal yn 18 oed er mwyn chwilio am fywyd mwy annibynnol.

Bu'n rhaid i'r ferch, sydd â pharlys yr ymennydd, adael teulu, ffrindiau a'r gamp y bu'n cystadlu ynddi yn genedlaethol ers ei phlentyndod.

Dywedodd bod tref Bergamo yn “fryniog iawn, yn hen iawn ac yn anhygyrch” iddi.

Mae’r nofwraig sydd bellach yn 26 oed yn gweithio ac yn hyfforddi yng Nghaerdydd.

Mae’n dilyn cynlluniau sy’n cael eu hanfon ati gan ei hyfforddwr ar WhatsApp ac mae’n teithio’n ôl i’r Eidal yn rheolaidd i gystadlu.

'Nofio yw fy rhyddid'

Mae Sofia’n codi arian i wneud ffilm i adrodd ei stori a rhannu’r neges bod chwaraeon yn gallu newid bywydau.

"Nofio yw fy rhyddid," meddai.

Ond nid oes ganddi atgofion da o’i gwersi cyntaf yn y pwll yn yr Eidal.

Dywedodd ei bod hi wedi casáu gwersi gyda hyfforddwyr oedd yn ei gwahanu hi oddi wrth blant eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ei harddegau, meddai Sofia, roedd hi'n dyheu am fwy o annibynniaeth

Yn 14 oed, fe ddaeth o hyd i grŵp para-nofio a ddatblygodd i fod yn rhan bwysig o’i bywyd ac ers hynny mae’n caru’r gamp.

Ond yn ei harddegau, dywedodd ei bod yn dyheu am fwy o annibyniaeth.

Nid oedd yn gallu cael caniatâd i osod ramp i gael mynediad i'w chartref oherwydd ei bod yn byw mewn adeilad hanesyddol.

Roedd Sofia hefyd yn dibynnu ar ei rhieni i fynd â hi i’r ysgol yn ddyddiol.

“Nofio oedd yr unig beth roedd yn rhoi annibyniaeth i fi ond mewn gwirionedd doedd hynny ddim yn ddigon mae’n debyg, felly penderfynais fy mod yn mynd i astudio yn y DU gan fy mod dan yr argraff y byddwn yn cael gwell cefnogaeth yno o gymharu â’r Eidal,” ychwanegodd.

Dywedodd Sofia hefyd ei fod yn haws rheoli ei hamserlen fel myfyriwr.

Fel tiwtor cyswllt a rhywun sy’n gwneud gwaith llawrydd, mae hi'n gallu cyfuno hyfforddi, gweithio ac astudio.

“Fyddwn i ddim yn newid dim byd, achos dwi'n hoffi'r dysgu, y cyfieithu, dwi'n hoffi'r ysgrifennu, ond rydw i hefyd yn hoffi'r nofio,” meddai.

"Aac mae'n gatalydd gwych ar gyfer fy ngwaith... dwi wedi ysgrifennu erthyglau cyfan pan oeddwn i'n nofio - yn fy mhen.”

Ffynhonnell y llun, Pietro Rizzato/WPS/FINP
Disgrifiad o’r llun,

Mae’r bara-nofwraig yn hyfforddi yng Nghaerdydd gan ddilyn cynlluniau ei hyfforddwr dros WhatsApp ac mae’n teithio’n ôl i’r Eidal yn rheolaidd i gystadlu

Mae Sofia yn hyfforddi ar ei phen ei hun ac yn gwneud hynny drwy gofio ymarferiadau sydd wedi eu gosod gan ei hyfforddwr yn yr Eidal.

Mae’n gallu bod yn broblem iddi weithiau ar yr achlysuron prin y mae hi'n hyfforddi gyda'i thîm Eidalaidd PHB Polisportiva Bergamasca.

“Pan fydda i’n mynd yn ôl i’r Eidal gyda fy hyfforddwr weithiau, mae’n rhaid i mi ofyn iddi ailadrodd ei hun gan bo fi bellach ddim wedi arfer â gwrando ar rywun yn rhoi cyfarwyddiadau i fi,” meddai.

Mae’r disgyblaeth yma o ymarfer ar ei liwt ei hun yn helpu gyda’i disgyblaeth ar ddiwrnodau pan nad yw am nofio.

“Am flynyddoedd, ges i drafferth gyda fy iechyd meddwl, lle ro'n ni’n deffro yn y bore ac yn teimlo fy mod eisiau crio, ond ro'n i’n codi o hyd a mynd i nofio oherwydd roedd yr ymarferiadau gen i’n barod i’w gwneud,” ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Pietro Rizzato/WPS/FINP
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sofia wedi dechrau prosiect ei hun 'Power of the Current' i ysbrydoli eraill

Yr elfen drawsnewidiol yna, lle mae chwaraeon yn “achub bywyd”, yw’r peth mae Sofia yn gobeithio ei rhannu gyda’i phrosiect, Power of the Current.

Ynghyd â’r gyfarwyddwraig Alexia Barrett, maen nhw ceisio codi arian ar gyfer rhaglen ddogfen fer.

Cyfarfu’r ddwy yng Nghaerdydd a thyfodd eu cyfeillgarwch dros “sawl paned o goffi”.

“Soniodd hi’n achlysurol efallai nad oedd hi o gwmpas oherwydd ei bod hi’n gwneud rhywfaint o nofio,” meddai Alexia.

“Roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n golygu rhywbeth achlysurol,” ychwanegodd.

Dywedodd Alexia bod penderfyniad Sofia wedi ei hysbrydoli gan ei bod yn “berson cyffredin yn gwneud pethau anhygoel”.

Y bwriad yw sicrhau bod y ddogfen yn cael ei gweld yng ngwyliau ffilm ledled y byd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyfarwyddwraig, Alexia Barrett, yn ceisio codi arian ar gyfer creu rhaglen ddogfen fer am Sofia

Mae'r gyfarwyddwraig 24 oed bellach yn ceisio codi arian i helpu i dalu am offer, deunydd archif a chostau teithio.

“Ryn ni eisiau iddi edrych fel y seren yw hi,” ychwanegodd.

Ond mae Sofia’n mynnu bod yr holl gefnogaeth mae hi’n ei dderbyn yn allweddol.

“Rydw i eisiau iddi fod yn stori o angerdd, penderfyniad a chyfeillgarwch hefyd oherwydd fyddwn i ddim yn gallu gwneud yr holl bethau dwi’n eu gwneud pe na bai fy nheulu, fy hyfforddwr, fy nhîm a fy ffrindiau yng Nghaerdydd yn fy nghefnogi.”

Pynciau cysylltiedig