Medi Harris: Blwyddyn gofiadwy i'r nofwraig o Borthmadog

  • Cyhoeddwyd
Medi HarrisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Medi Harris gyda'i medal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad 2022

Ennill medal aur ym Mhencampwriaeth Cwrs Byr Ewrop a thorri record Nofio Cymru oedd rhai o uchafbwyntiau'r nofwraig o Borthmadog, Medi Harris, eleni.

Ond mae blwyddyn bwysicach fyth ar y gorwel iddi yn 2024 gyda'r Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal ym Mharis ddiwedd yr haf.

Gyda Medi eisoes wedi cystadlu ym Mhencampwriaeth Nofio'r Byd, Gemau'r Gymanwlad a Phencampwriaeth Ewrop, mae'n prysur gwneud ei marc yn y byd nofio.

O Borthmadog i Bencampwriaeth Nofio'r Byd

Fe gychwynnodd diddordeb Medi yn y gamp pan oedd yn chwech oed wrth fynychu gwersi nofio yn ei phwll lleol ym Mhorthmadog.

Yn wyth oed fe ymunodd â Chlwb Nofio Porthmadog cyn ymuno â Chlwb Nofio Caernarfon flwyddyn yn ddiweddarach.

Datblygodd fel nofwraig ifanc gan gynrychioli Clwb Nofio Caernarfon a Nofio Gwynedd am flynyddoedd, a hynny o dan hyfforddiant Bron Hill.

Dywedodd Ms Hill fod gan Medi "yr ymrwymiad, y ddisgyblaeth a'r ymroddiad" i lwyddo.

Erbyn hyn mae'n nofio i dîm Loughborough ar ôl cyfnod yn nofio gyda thîm Prifysgol Abertawe.

Ffynhonnell y llun, Medi Harris
Disgrifiad o’r llun,

Medi a'i ffrindiau o Swim Gwynedd ar gwrs hyfforddi yn Lanzarote yn 2018

Er iddi fwynhau ei gwersi nofio erioed, dywedodd mai'r cystadlu oedd y peth gorau am y gamp.

"Roedd o'n rhywbeth rili pwysig achos mae'n rhoi syniad i ti pa mor dda wyt ti o'i gymharu â phobl eraill, ond hefyd jyst i gael hwyl.

"O ni'n lyfio mynd i gystadlaethau i nofio a rasio, ond hefyd i wneud ffrindiau dros Gymru. Mae'n neud ti'n fwy excited i nofio wedyn."

Ffynhonnell y llun, Tim Cymru

Er iddi freuddwydio am allu cynrychioli ei gwlad ers yn ifanc, ennill medal yng Ngemau Gymanwlad yr Ifanc yn 2017 oedd yr hwb allweddol i'w gyrfa lle enillodd ddwy fedal.

Dywedodd mai yn ystod y gystadleuaeth hon y sylweddolodd "y gallai wneud hyn fel gyrfa".

"Es i gyda thîm Cymru i'r Youth Commonwelath Games i'r Bahamas a dwi'n meddwl yn fan'na nes i sylweddoli, achos 'nes i ennill dwy fedal fan'na, dwi actually yn gallu gwneud hyn".

Erbyn hyn, mae'n nofio i dîm profiadol Loughborough ac yn ymarfer 20 awr yr wythnos yn y pwll, gyda sesiynau ffitrwydd yn ychwanegol i hynny.

Dywedodd ei bod wedi newid ei ffordd o fyw yn gyfan gwbl - "dwi'n byw i nofio," meddai.

'Uchafbwynt' ennill medal Aur ym Mehncapwriaeth Cwrs Byr Ewrop

Dywedodd Medi mai cipio'r fedal aur yn y ras 200m dull cefn ym Mhencampwriaeth Cwrs Byr Ewrop 2023 gan dorri record Nofio Cymru ar yr un pryd yw "uchafbwynt" ei gyrfa hyd yma.

Fe gipiodd y fedal arian yn y ras 100m dull cefn yn yr un bencampwriaeth.

Dywedodd: "'oedd o'n rilisbesial achos dw i heb neud y 200m dull cefn ers tua tair blynedd a honno oedd y gystadleuaeth gyntaf gyda thîm Loughborough, felly ro' ni'n nerfus i weld sut y byddai hynny'n mynd".

"Ond ro' ni byth yn meddwl y byswn i 'di ennill."

Ffynhonnell y llun, Medi Harris
Disgrifiad o’r llun,

Medi a'i chyd-nofwyr o dîm Prydain ym Mhencampwriaeth cwrs byr Ewrop 2023

Wrth ymateb i'w llwyddiant, dywedodd Cyfarwyddwr Perfformiad Cenedlaethol Nofio Cymru, Ross Nicholas ei fod yn "destament i waith caled Medi i dorri record 200m dull cefn Georgia Davies sydd wedi sefyll ers 2009, a dod yn Bencampwraig Ewropeaidd yr un mis."

Roedd 2022 yn flwyddyn lwyddiannus i Harris hefyd wrth iddi ennill y ras 100m dull cefn ym Mhencampwriaeth Prydain.

Fe gipiodd y fedal efydd yn yr un ras yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022 a chyrraedd y 7fed safle ym Mhencampwriaeth Nofio'r Byd yn Budapest.

Mae hefyd yn rhan o dîm ras cyfnewid menywod Prydain a enillodd y fedal aur yn y ras 4x100m ym Mhencampwriaeth Ewrop 2022 yn yr Eidal.

Blwyddyn y Gemau Olympaidd o'i blaen

I unrhyw nofiwr ifanc, mae cyrraedd y safon er mwyn gallu cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn brofiad gwefreiddiol, ac mae Medi Harris yn edrych ymlaen at y flwyddyn gyffrous sydd o'i blaen.

"Dw i'n edrych ymlaen at bob dim, dw i ond yn gallu controlio be dwi'n neud, dwi'n nofio'n reit dda ar y funud, a dwi eisiau gallu parhau a theimlo'n hyderus".

Wrth edrych yn ôl ar ei gyrfa hyd yma, dywedodd Medi bod dylanwad ei hyfforddwyr Bron Hill, Adam Baker, Dave Hemmings a Nofio Cymru wedi bod yn fawr arni.

Dywedodd ei hyfforddwr, Bron Hill o Nofio Gwynedd, lle cychwynnodd y cyfan i Medi, ei bod yn "hynod o falch o'r hyn y mae Medi wedi ei gyflawni hyd yma".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Medi Harris gyda'i medal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad 2022

Dywedodd fod nofio'n gystadleuol yn dibynnu ar "ymrwymiad, disgyblaeth ac ymroddiad, ac mae gan Medi y rhinweddau hyn".

Aeth ymlaen i drafod pwysigrwydd cyfnod Medi gyda Nofio Gwynedd gan ddweud fod y cyfnod wedi bod yn "allweddol o ran y pontio rhwng Nofio Cymru a pherfformio ar safon uwch".

Yn ystod cyfnod Covid-19, gan fod Medi yn rhan o dîm elit Nofio Cymru roedd modd iddi barhau i ymarfer, ond roedd hyn yn golygu symud i Abertawe yn 17 oed, heb ei rhieni.

Dywedodd Bron Hill, "er bod hyn yn ofyn mawr ar y pryd, roedd y symud hwn wedi sicrhau fod Medi lle y mae hi heddiw".

Gyda llai na naw mis i fynd cyn y Gemau Olympaidd, mae Medi'n ymarfer yn galed o dan ofal ei hyfforddwyr ym mhwll nofio Loughborough, un nod sydd ganddi eleni, sef ennill ei lle i gystadlu yn y gemau hynny gan barhau i lwyddo fel nofwraig broffesiynol.

Pynciau cysylltiedig