Ateb y Galw: Eilir Owen Griffiths
- Cyhoeddwyd
Eilir Owen Griffiths sy'n ateb y galw yr wythnos hon.
Yn adnabyddus fel arweinydd Côr CF1 yng Nghaerdydd, mae hefyd yn gyfansoddwr toreithiog ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant.
Ef yw cyflwynydd cyfres ddiweddaraf Swyn y Sul ar BBC Radio Cymru.
Dyma gyfle i ddod i'w adnabod yn well.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Maen nhw'n dweud mai poen ydi cof cyntaf mwyafrif o bobl ac mae gen i ddau gof o pan o'n i'n byw ym Mhumsaint.
Y cyntaf. Plentyn yn yr ysgol feithrin yn sticio fforcen yn fy moch! Ar ail, disgyn oddi ar ffrâm ddringo yn ysgol Caio. Aw!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Credu mai Llanrhaeadr, Dyffryn Clwyd. Roedd Nain a Taid Cartref yn byw yn number one Maes y Felin a Nain Machno yn byw yn number ten Maes y Felin. Atgofion lu o dreulio gwyliau yno. Cyfnod hapus iawn!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson allan? Ddim yn siŵr y gallaf rannu! Ond rhaid i mi sôn am noson yr enillodd CF1 Côr y Byd yn Llangollen.
Breuddwyd wedi ei wireddu yn wir. I unrhyw arweinydd corawl dyna yw'r pinacl!
A hefyd derbyn Tlws Pavarotti gan Terry Waite, rhywun nes i ddod yn ffrindiau mawr gydag ef yn ystod fy nghyfnod yn gyfarwyddwr cerdd yn yr Eisteddfod a chael clamp o gwtsh ganddo!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Creadigol, penderfynol, dibynadwy.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Cofio chwarae charades gyda Nain Cartref adeg 'Dolig a hi ddim yn deall y rheolau ac yn mynd yn flin pan o'n i methu cael yr ateb.
Neud i ni gyd fel teulu rolio chwerthin!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dwi'n berson emosiynol iawn ac yn crïo yn aml, hyd yn oed wrth wylio pethe fel I'm A Celebrity!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n gallu bod yn hynod ddiamynedd! A gadael socks ymhobman!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad?
Fy hoff film ydi Cool Runnings!
Fy hoff Lyfr ydi Llyfr Glas Nebo.
Podlediad - The Crossbow Killer.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Harry Houdini – Dwi wastad wedi dotio gyda chonsurio, a meddwl bydda hi'n grêt dysgu mwy amdano.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Un o fy hoff bethau i wneud ydi mynd i siopa bwyd. A hynny ar ben fy hun.
Dim Leah a'r plant. Mae rhaid i fi gerdded fyny a lawr pob aisle, hyd yn oed yr un bwyd ci er nad oes genai gi yn "Tescos Fi" (sef un penodol dwi'n mynd i yn wythnosol). Dwi'n ffeindio fo yn hynod therapeutic.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Clamp o gyngerdd mawr! Gyda fy hoff ddarnau cerddorol! Mynd allan gyda bang!
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun ohonof i a Mam. Doedd Mam ddim yn licio cael ei llun 'di tynnu o gwbl felly maen nhw'n eithaf prin.
Yn enwedig gyda hi'n gwenu, oherwydd oedd gas ganddi gamera yn ei hwyneb.
Ond mae'r llun yma mor llawen o'r ddau ohonom.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
The Invisable man – byswn wrth fy modd bod yn anweledig am ddiwrnod.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd28 Hydref
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2023