Cynllun newydd i 'gau'r bwlch iechyd rhwng y rhywiau'
- Cyhoeddwyd
Fe fydd canolfannau iechyd menywod yn cael eu sefydlu ym mhob rhan o Gymru erbyn 2026 fel rhan o'r ymdrech i gau'r bwlch iechyd rhwng y rhywiau.
Mae'n rhan o'r Cynllun Iechyd Menywod - y cyntaf o'i fath yng Nghymru - sy'n dilyn strategaethau tebyg yn Lloegr a'r Alban.
Fel rhan o'r cynllun 10 mlynedd, bydd ffocws penodol ar wyth maes lle mae modd gwella gofal iechyd i fenywod, yn ogystal â chyllid gwerth £750,000 ar gyfer gwaith ymchwil.
Fe fydd disgwyl hefyd i feddygon holi menywod am eu hiechyd mislif a'r menopos yn ystod apwyntiadau arferol.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, y byddai'r cynllun yn "sicrhau bod menywod yn cael gwasanaethau iechyd gwell drwy gydol eu bywydau".
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd
- Cyhoeddwyd25 Medi
Er bod menywod yn byw'n hirach na dynion, mae ymchwil yn dangos eu bod yn byw am lai o flynyddoedd heb anabledd, yn aros yn hirach am gymorth lleddfu poen ac mae nifer ohonynt yn dweud bod eu symptomau wedi'u diystyru.
Mae'r cynllun yn nodi'r angen am fwy o waith ymchwil, data a dyfeisgarwch yn ogystal â phwysigrwydd clywed am brofiadau menywod fyddai fel arfer yn cael eu hanwybyddu.
Mae'n galw hefyd am gyllid digonol er mwyn sicrhau bod modd cyflawni'r nodau.
Dywedodd yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod, Dr Helen Munro: "Yn glinigydd, rwy'n ymwybodol iawn fod gwasanaethau i fenywod yng Nghymru yn annigonol yn aml o ran diwallu gofynion ac anghenion menywod a darparu'r hyn y maen nhw'n ei haeddu.
"Rydyn ni'n gobeithio gallu newid hyn drwy roi'r cynllun hwn ar waith."
Fe fydd canolfannau - neu hybiau - iechyd sy'n arbenigo mewn iechyd mislif yn cael eu sefydlu yn ardaloedd y gwahanol fyrddau iechyd, er mwyn helpu adnabod cyflyrau gwahanol sy'n effeithio ar fenywod.
Bydd adolygiad o allu'r gweithlu presennol i wneud hynny, a'u gallu i roi diagnosis amserol i gleifion yn cael ei gynnal erbyn mis Mawrth 2026.
Bydd mwy o waith ymchwil yn cael ei gynnal, a bydd rhagor o ddeunydd addysgol ar gael i bawb - gan gynnwys dynion a bechgyn.
Pa feysydd fydd yn cael eu blaenoriaethu a sut?
Iechyd mislif – Creu hybiau iechyd menywod arbenigol ym mhob bwrdd iechyd i helpu i roi diagnosis o gyflyrau mislif, trefnu mwy o waith ymchwil a datblygu rhagor o ddeunyddiau addysgol i bawb, gan gynnwys bechgyn a dynion.
Endometriosis ac adenomyosis – Darparu hyfforddiant pellach ar endometriosis fel cyflwr cronig a darparu addysg yn rhan o'r cwricwlwm.
Atal cenhedlu, atal cenhedlu ôl-enedigol a gofal adeg erthyliad – Sicrhau bod mwy o wybodaeth ddibynadwy ar gael ar-lein, casglu data pellach a gwella hyfforddiant ar ddefnyddio dulliau atal cenhedlu megis y coil.
Iechyd cyn cenhedlu – Dylai pob bwrdd iechyd gael strategaeth ar helpu pobl i feichiogi, darparu hyfforddiant pellach ac ystyried risgiau gan gynnwys iechyd meddwl, epilepsi a diabetes math 2.
Iechyd pelfig ac anymataliaeth – Gwella mynediad at wybodaeth ar-lein, ymgysylltu â phrifysgolion ar ymchwil newydd a datblygu gwiriwr symptomau problemau llawr y pelfis.
Y menopos – Adolygu'r holl arferion presgripsiynu sy'n ymwneud â HRT, meithrin hyrwyddwyr menopos cymunedol a chynnal ymchwil.
Trais yn erbyn menywod a merched – GIG Cymru i ymuno â siarter 'diogelwch rhywiol mewn sefydliadau gofal iechyd', ystyried yr angen am hyrwyddwr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ym mhob bwrdd iechyd ac addysgu pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ymhellach.
Heneiddio'n dda a chyflyrau hirdymor gydol oes – Grymuso menywod i reoli eu hanghenion iechyd eu hunain, deall y broses heneiddio a chymryd camau gweithredu ataliol.
Mae Emma McFarland ymhlith yr un o bob tair o fenywod sy'n dioddef mislif trwm - rhywbeth sydd, meddai hi, yn cael effaith enfawr ar ei bywyd.
"Dwi'n lwcus bod fy noctor wir wedi ceisio dod o hyd i beth yn union sy'n bod, ac wedi fy anfon am wahanol brofion," meddai Ms McFarlane o Fro Morgannwg.
Ond eglurodd ei bod hi'n aros ers tro i gael gweld arbenigwr gan fod rhestrau aros mor hir, a chyfeiriadau yn aml yn cael eu gwrthod.
Ychwanegodd fod y ffaith bod ei rheolwr yn y gwaith sy'n ei chefnogi wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gan ei bod hi angen newid ei nwyddau mislif mor aml yn ystod y dydd.
Fe fydd rhagor o hyfforddiant yn cael ei roi i weithwyr iechyd ar gyflyrau Endometrioses ac Adenomyosis hefyd.
Mae'r cyflwr yn effeithio 10% o fenywod, ond mae'n rhaid aros 10 mlynedd ar gyfartaledd am ddiagnosis - felly mae'r gwir ffigwr yn debygol o fod yn uwch.
Y gobaith, fel rhan o'r cynllun, yw sefydlu gwasanaeth arbenigol drwy'r wlad - ond ar hyn o bryd dim ond dau fwrdd iechyd sy'n darparu hynny.
Mae Emily Griffith, 26 o Sir Gaerfyrddin, wedi talu am ei gofal ei hun yn sgil yr amseroedd aros hir o ganlyniad i brinder arbenigwyr yng Nghymru.
"Ni ddylai fod yna gyfrifoldeb ar y claf i wneud ymchwil i'w hanghenion gofal ei hunain, i dalu am eu gofal yn breifat, neu hyd yn oed teithio i rannau eraill o'r DU i gael gofal arbenigol.
"Mae menywod yng Nghymru wedi cael eu methu ers blynyddoedd bellach yn sgil y diffyg canolfannau arbenigol.
"Mae'r galw am wasanaethau yn enfawr, a dydi pethau ddim am newid dros nos, ond mae'n rhaid newid cyn gynted â phosib."
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn cyflwyno polisi yn y meysydd perthnasol ac yn cynnal adolygiadau blynyddol o'r cynnydd a wnaed gan Weithrediaeth Iechyd y GIG.
Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud hefyd i glywed gan fenywod na chafodd eu cynrychioli gystal ag eraill yn ystod trafodaethau blaenorol.
Fe fydd hynny'n cynnwys menywod du a rhai o grwpiau ethnig lleiafrifol eraill, menywod anabl, menywod gydag anableddau dysgu, rhai o'r gymuned LHDT+, rhai gyda niwrowahaniaeth, menywod rhwng 16-25 oed a rhai dros 65.