Darganfod dros 400 o blanhigion canabis ger gorsaf heddlu
![Dyma'r adeilad lle cafodd y planhigion canabis eu darganfod](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/851/cpsprodpb/e1e3/live/c6d97120-9cfe-11ef-9858-cf2bb09efac2.jpg)
Cafodd 435 o blanhigion canabis eu darganfod ychydig dros 80 llath o orsaf heddlu Castell Newydd Emlyn
- Cyhoeddwyd
Mae swm mawr o gyffuriau wedi'i ddarganfod mewn adeilad ger gorsaf heddlu yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd 435 o blanhigion canabis eu symud o hen siop Co-op yng Nghastell Newydd Emlyn, bedwar drws o'r orsaf heddlu.
Cafodd Heddlu Dyfed Powys warant i archwilio'r adeilad nos Fercher, 6 Tachwedd.
Dywedodd person sy'n gweithio yn y dref, sydd am aros yn ddi-enw, wrth BBC Cymru "nad yw'n synnu" bod cyffuriau wedi ei ddarganfod yno a bod "arogl wedi bod yno ers mis, o leiaf".
Mae swyddogion yn dweud na chafodd unrhyw un ei arestio a'u bod nhw'n dal i ymchwilio.
Dywedodd yr heddlu bydd swyddogion yn yr ardal tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
![Dafydd Llywelyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2048/cpsprodpb/aaad/live/f6087940-9d36-11ef-99db-7d863651e78d.jpg)
Dywedodd Dafydd Llywelyn fod y llu "wedi gweld mwy o hyn yn digwydd yng ngorllewin Cymru dros y misoedd a'r flwyddyn ddiwethaf"
Yn siarad gyda BBC Cymru dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn achosion o'r fath yn dod yn fwy cyffredin.
"Ni wedi gweld mwy o hyn yn digwydd yng ngorllewin Cymru dros y misoedd a'r flwyddyn ddiwethaf, ble mae unigolion yn tyfu canabis mewn hen adeiladau sydd yng nghanol cymunedau," meddai.
"Mae'r grwpiau yma'n dod, yn trial darganfod rhywle sydd efallai yn anghysbell - canol tref tawel yng ngorllewin Cymru - ac wedyn yn cynhyrchu'r cyffuriau i werthu lan y gadwyn mewn mannau eraill ym Mhrydain.
"Be' sy'n bwysig yw bod y cyhoedd, pan maen nhw'n gweld rhywbeth amheus neu rywbeth sydd ddim yn taro deuddeg, yn cysylltu 'da'r heddlu.
"Ni'n dibynnu ar y gymuned yn lleol a gwybodaeth yn dod o'r cyhoedd."