Plant mewn gofal 'ddim am gael eu prynu a'u gwerthu'

Rhian Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhian Thomas yn un sydd wedi cael profiad helaeth o'r system ofal

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru'n anelu i fod y wlad gyntaf o fewn y Deyrnas Unedig i gael gwared ar elw preifat o'r sector gofal plant.

Mae plant a phobl ifanc yng Nghymru sydd â phrofiad o'r system yn galw am dynnu pwerau'r farchnad o'r drefn.

Daw hynny gam yn nes wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ymgynghoriad i addo rhoi anghenion y tua 7,200 o blant a phobl ifanc sydd mewn gofal yn gyntaf.

Yn ôl y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, y flaenoriaeth yw tynnu elw o'r sector.

Fe dreuliodd Rhian Thomas o Sir Gaerfyrddin 12 mlynedd gyda rhieni maeth.

"O'n i ddim wedi cael gormod o gariad na chefnogaeth drwy'r system," meddai.

"Does dim digon o arian yn cael ei roi ar gyfer y plant, mae gormod yn mynd i'r bobl broffesiynol.

"O'dd yr arian yn cael ei gymryd oddi wrtha i, o'dd y rhiant maeth yn defnyddio fe, ac o'n i ddim yn cael yr arian i gael y profiadau oedd fy ffrindiau i'n cael."

Dywedodd Elliot James, sy'n 15 oed ac sydd wedi treulio dwy flynedd mewn cartref gofal, fod cwmnïau preifat yn cael eu gwobrwyo am ofalu am blant sy'n camymddwyn.

"Beth yw'r pwynt? Ti eisiau helpu pobl ifanc ond ti'n neud profit off y bobl ifanc," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ol Dawn Bowden, mae rhai plant yn teimlo fel eu bod nhw'n cael eu marchnata

Mae Llywodraeth Cymru'n cynnig "newid radical" er mwyn trawsnewid y ddarpariaeth gofal plant, mewn mesur newydd sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Llun.

Er mwyn ei wireddu, cynghorau lleol neu elusennau yn unig fydd yn cael bod yn gyfrifol am blant mewn gofal.

Mae tua 10% o blant sydd mewn gofal mewn cartrefi, 69% gyda rhieni maeth a'r gweddill yn byw gyda pherthnasau.

Ar hyn o bryd cwmnïau preifat sy'n gyfrifol am 75% o gartrefi gofal plant, gyda'r sector fel arfer yn gwneud elw o tua 22%.

Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden: "Mae'r polisi wedi cael ei ddatblygu wrth drafod gyda'r plant sydd am weld elw preifat yn cael ei dynnu mas o'u hamgylchiadau.

"Dy' nhw ddim mewn gofal o ddewis, ac ry' ni wedi gweld cartrefi gofal preifat yn dod mewn i'r farchnad, ac rwy'n defnyddio'r term marchnad yn fwriadol oherwydd dyna sut mae'r plant yma'n teimlo sef eu bod nhw'n cael eu marchnata."

Y prif nod yw cael gwared ar elw preifat o'r drefn gofal yn ystod tymor nesa'r Senedd.

Yn rhan o'r addewid yna, mae'r llywodraeth yn ceisio darparu gofal mor agos at gartrefi'r plant ag sy'n bosib, yn ogystal â chryfhau'r cyrff cyhoeddus a'u rôl fel 'rhieni corfforaethol'.

Nifer y plant mewn gofal yn cynyddu

Mae nifer y plant sydd mewn gofal yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol dros y degawd diwethaf, o 5,760 yn 2013, i 7,210 y llynedd.

Cymru sydd a'r gyfradd uchaf o blant mewn gofal o'i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig - 116 plentyn ymhob 10,000 o'r boblogaeth dan ddeunaw yng Nghymru, 98 yw'r ffigwr yn yr Alban ac 82 a 71 yng Ngogledd Iwerddon a Lloegr.

Y sector breifat sydd wedi tyfu i gwrdd â'r galw, gyda nifer y cartrefi preifat wedi dringo o 100 yn 2015 i 314.

Tua £5,000 yw cost wythnosol gofal i blentyn mewn cartref preifat, ac mae rhai'n treulio blynyddoedd o fewn y drefn.

Mae gan rai o'r cartrefi yma therapyddion, lefelau uchel o staffio, ysgolion mewnol hyd yn oed.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llinos Medi yn dweud y bydd hi'n anodd cyflawni'r nodau mewn cyfnod mor fyr

Mae awdurdodau lleol Cymru'n cefnogi'r egwyddorion tu ôl i'r mesur newydd - ond yn pryderu am ddiffyg adnoddau ac arian pan mae cyllido eisoes yn anodd.

Yn ôl Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Môn a llefarydd gwasanaethau cymdeithasol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae'n mynd i fod yn anodd cyflawni hyn o fewn un tymor seneddol.

"'Da ni'n sôn am gyfnod mwy heriol fyth. Mae gyda ni nifer o blant a phobl ifanc mewn gofal a 'da ni mewn argyfwng costau byw ac argyfwng yn dilyn covid ac yn y blaen.

"Mae 'na gynnydd hefyd mewn cymhlethdod teuluol a'r effaith mae hynny'n ei gael ar wasanaethau cymdeithasol ac mae hynny'n ychwanegol i'r angen i drawsnewid y gwasanaeth o fewn pum mlynedd.

"Felly, dydi hi ddim y cyfnod mwya' deniadol i wneud hyn a dyna pham fod rhaid i ni gael y drafodaeth ynglŷn â sut mae ei neud o."

Disgrifiad o’r llun,

Mae aelodau elusen Voices from Care Cymru yn galw am gael gwared ar elw o'r sector gofal plant

Dadl un elusen yn y sector - Voices from Care Cymru - yw bod y diffyg arian yn codi o'r ffaith bod chwarter ohonno'n yn mynd fel elw i gwmnïau preifat.

Yn ôl eu llefarydd Helen Mary Jones: "Maen nhw (cynghorau sir) yn brin o arian achos eu bod nhw yn rhoi chwarter o'r arian maen nhw'n ei gael i wario ar blant i gwmnïau mawr preifat.

"Mae 'na brinder staff achos dydi cwmnïau preifat ddim yn talu digon o arian i staff i'w cadw nhw yn y system".

'Argyfwng'

Mae un cyn-gyfarwyddwr gofal cymdeithasol yn disgrifio’r sefyllfa bresennol fel "argyfwng sydd wedi codi am sawl rheswm", un eu plith toriadau ariannol, diffyg staffio a chwmnïau yn rhoi elw o flaen safon gofal.

Fe fu Sian Howys yn gyfrifol am wasanaethau Cyngor Ceredigion tan 2022: "Mae'r cwmnïau yma sydd am wneud elw allan o'r sefyllfa... ma' hynny'n rhan o'r broblem.

"Yn sicr mae awdurdodau lleol am ddarparu gofal o safon uchel i blant, ond mae 'na heriau o ran y diffyg buddsoddiad a'r preifateiddio sydd wedi digwydd ar hyd y blynyddoedd.

"A hefyd mae 'na ofyn am gael staff cymwys i ofalu am blant a nifer o weithwyr cymdeithasol cymwysedig."