Eisteddfod Ffermwyr Ifanc: 'Braint' cyflwyno cân i'r mudiad

Disgrifiad,

Catrin Angharad Jones sydd wedi cyfansoddi 'Rhowch imi'

  • Cyhoeddwyd

Bydd cân gorawl newydd sbon yn cael ei pherfformio yng nghystadleuaeth y côr yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru ddydd Sadwrn.

Y gantores a'r arweinydd Catrin Angharad Jones sydd wedi cyfansoddi 'Rhowch imi' ar gyfer yr Eisteddfod fydd yn cael ei chynnal ar faes Sioe Môn ar 18 Tachwedd.

Mae'r thema yn tanlinellu pa mor bwysig ydy medru dianc i gefn gwlad a'i harddwch naturiol yng nghanol byd o broblemau.

"Mae'n fraint cael cyflwyno cân i fudiad y ffermwyr ifanc yma ym Môn - mudiad sy'n agos iawn at fy nghalon i," medd Catrin wrth Post Prynhawn.

"Dwi wedi cael profiadau dirifedi hefo'r mudiad ar hyd y blynyddoedd, yn enwedig yn yr Eisteddfod, felly mae'n braf medru rhoi rhywbeth yn ôl.

"A dwi'n teimlo'n freintiedig iawn y byddai'n cael clywed y corau yma i gyd yn canu cân dwi wedi ei chyfansoddi."

Disgrifiad o’r llun,

Catrin Angharad Jones: "Mae'n fraint cael cyflwyno cân i fudiad y ffermwyr ifanc yma ym Môn - mudiad sy'n agos iawn at fy nghalon i"

Mae'r Eisteddfodau sirol i gyd wedi eu cynnal erbyn hyn a'r côr gorau o bob sir yn cystadlu yn erbyn ei gilydd nos Sadwrn.

Mae Catrin yn cyfaddef iddi hi golli cwsg wrth gyfansoddi.

"Mae'n anodd wrth gwrs oherwydd mae rhai aelodau profiadol iawn yn y corau a rhai yn gwbl ddi brofiad ac o bosib yn camu ar lwyfan am y tro cyntaf.

"Felly mae isho meddwl am y geiriau a'r ystod lleisiol."

'Mi fydd 'na dro yn y stumog'

Mae Cadeirydd pwyllgor Eisteddfod Ynys Môn, Gwen Edwards, yn dweud ei bod wrth ei bodd gyda'r gwaith newydd.

"Pan glywais i'r gân am y tro cyntaf - ychydig fisoedd 'nôl - mi oeddwn i'n falch iawn ac yn hoff iawn o'r gân.

"Dwi'n edrych ymlaen i glywed sut mae pob sir arall yn dehongli'r gân hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Gwen Edwards: "Mi oeddwn i'n falch iawn ac yn hoff iawn o'r gan"

A'r nod, meddai Gwen, ydy y bydd corau ar hyd a lled Cymru yn defnyddio'r gwaith yn y dyfodol.

Mae Catrin yn edrych ymlaen at y gystadleuaeth - ond ychydig yn nerfus hefyd wrth feddwl am nifer o wahanol gorau yn perfformio ei gwaith.

"Mi fydd 'na dro yn y stumog. Newydd ddechrau cyfansoddi ydw i yn gorawl ers ychydig o flynyddoedd felly mi fydd yn brofiad newydd imi.

"Dwi wedi trio mynd am thema sy'n berthnasol i bawb, y syniad o gael cefn gwlad fel rhyw fath o ddihangfa pan mae'r byd a'i boen yn mynd yn fwrn ar rywun.

"Dwi'n edrych ymlaen i weld os y daw'r neges drwodd gan y corau - dwi'n siŵr y byddai fel babi yn crio yn y cefn yn falch o bob un ohonyn nhw."

Pynciau cysylltiedig