Diarddel gofalwr am geisio trefnu rhyw â merched 13 oed
![Llys y Goron Caernarfon](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/974/cpsprodpb/89b0/live/eeb35d90-2cc0-11ef-b7df-f32066aee2c0.jpg)
Cafodd Groom ei ganfod yn euog yn Llys y Goron Caernarfon yn 2023
- Cyhoeddwyd
Mae gofalwr o Wynedd wedi cael ei wahardd rhag gweithio yn y maes ar ôl cael ei ganfod yn euog o geisio darbwyllo rhieni i'w adael i gam-drin eu merched 13 oed yn rhywiol.
Doedd Huw Meredydd Groom ddim yn ymwybodol ei fod yn siarad â swyddogion heddlu cudd ar-lein.
Cafodd Groom ei ddedfrydu i ddwy flynedd yn y carchar yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Rhagfyr 2023, a'i roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw.
Penderfynodd panel Gofal Cymdeithasol Cymru nad oedd hi’n addas iddo barhau yn ei waith, ac fe gafodd ei atal rhag gweithio yn y maes yng Nghymru.
'Methu ymddwyn yn unol â safonau gofal'
“Fe wnaeth Groom ymddwyn mewn ffordd allai beryglu defnyddwyr gofal a chymorth,” meddai cadeirydd y gwrandawiad Tony Graham.
“Methodd Groom ag ymddwyn yn unol â safonau gofal ac egwyddorion y proffesiwn gofal cymdeithasol.”
Bu Groom yn gweithio fel swyddog gofal dros nos mewn cartref gofal preifat i blant yng Ngwynedd pan gafodd ei ddal gan heddlu cudd.
Clywodd gwrandawiad addasrwydd i ymarfer iddo sgwrsio’n rhywiol â thair menyw ar-lein, gan gredu bod nhw’n fodlon rhoi mynediad iddo at eu merched.
Fe blediodd yn euog i dri chyhuddiad o hwyluso gweithgaredd rhywiol â phlentyn, yn dilyn ymchwiliad yr heddlu.
![Oedolyn yn dal llaw plentyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2048/cpsprodpb/150a/live/d9318960-2cc0-11ef-b7df-f32066aee2c0.jpg)
Roedd Groom yn gweithio mewn cartref gofal preifat i blant yng Ngwynedd
Dywedodd panel Gofal Cymdeithasol Cymru y byddai’n gorchymyn i Groom gael ei ddileu o gofrestr gweithwyr gofal Cymru.
Mae ei enw hefyd ar gofrestr cofnodion trosedd, sy’n ei atal rhag gweithio yn y proffesiwn.
“Rydyn ni wedi penderfynu y byddai caniatáu Groom i barhau ar y gofrestr yn tanseilio hyder y cyhoedd yn y maes gofal cymdeithasol,” meddai cadeirydd y panel.
Doedd Groom ddim yn bresennol yn y gwrandawiad a doedd dim cynrychiolaeth i'w amddiffyn.