Dirwy i ddyn o Geredigion am fethu ag atal sŵn ceiliog

CeiliogFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Geredigion wedi cael dirwy am fethu ag atal ei geiliogod rhag gwneud sŵn, oedd yn cadw ei gymdogion ar ddeffro yn y nos.

Plediodd Christopher Wise, o Fetws Ifan ger Castellnewydd Emlyn yn euog i ddau achos o dorri gofynion Hysbysiad Lleihau Sŵn.

Roedd swyddogion diogelu'r cyhoedd Cyngor Ceredigion wedi dweud wrtho am symud ei adar o'r ffin ag eiddo cyfagos a'u cadw "mewn adeiladau allanol addas a fyddai'n atal sŵn".

Ond yn ôl y cyngor fe anwybyddodd Wise y canllawiau hynny "dro ar ôl tro".

Roedd hefyd wedi anwybyddu rhybuddion ynghylch cynyddu nifer y ceiliogod ar y safle.

Bydd yn rhaid iddo dalu cyfanswm o £486, sef dirwy o £240, gordal llys o £96 a £150 o gostau'r cyngor.

Sefyllfa annerbyniol

Pan ymwelodd swyddogion â'r safle yn gynnar un bore ym mis Hydref 2023 roedd yn bosib clywed sŵn ceiliog "yn glir yn ystafelloedd gwely eiddo cyfagos gyda'r ffenestri ar gau".

Clywodd gwrandawiad llys ynadon bod clochdar yn digwydd mor aml nes bod yna gyfnodau pan roedd y sŵn bron yn ddi-dor.

Dywedodd cadeirydd yr ynadon wrth Wise bod rhaid iddo gymryd y gorchymyn lleihau sŵn o ddifrif, a gwneud rhywbeth ynghylch sefyllfa sy'n annerbyniol.

Dywed y cyngor bod Wise wedi cael ei rybuddio am y "gofid" yr oedd y lefelau sŵn yn achosi i drigolion eraill, a'u bod yn ymdrechu "i sicrhau bod ein trigolion yn gallu byw'n heddychlon yn eu cartrefi eu hunain".

Pynciau cysylltiedig