Menyw'n pledio'n ddieuog i losgi bwriadol ar ôl tân mewn tŷ

tân Glynrhedynog
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi wedi'r tân yn oriau man 28 Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw 19 oed o Weston Super Mare wedi gwadu cyhuddiadau o losgi bwriadol yn dilyn tân mewn tŷ yng Nglynrhedynog ym mis Gorffennaf.

Fe ymddangosodd Storm Truman yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau gan bledio'n ddieuog i gyhuddiadau o losgi bwriadol, llosgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd a bod yn ddi-hid ynghylch a oedd bywyd mewn perygl.

Dywedodd y Barnwr Paul Hobson wrth Ms Truman y byddai'n sefyll ei phrawf gyda dau gyd-ddiffynnydd, sydd eisoes wedi pledio'n ddi-euog, ar 26 Ionawr 2026.

Bydd cais am fechnïaeth yn cael ei glywed yr wythnos nesaf.

Bu'n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi wedi'r tân ar Stryd Protheroe yn oriau man 28 Gorffennaf, ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu.

Pynciau cysylltiedig