Dau yn pledio'n euog i losgi gyda'r bwriad o beryglu bywyd

Mae llys wedi clywed fod gwerth £650,000 o ddifrod wedi ei achosi yn y tân
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi cyfaddef achos o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd yn dilyn tân mewn tŷ yn Rhondda Cynon Taf fis diwethaf.
Fe blediodd Auryn Guster, 19, ac Alfie Wheeler, 18 - y ddau o Weston-super-Mare yn ne-orllewin Lloegr - yn euog i'r cyhuddiadau yn eu herbyn mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Mercher.
Mae Mr Wheeler hefyd wedi ei gyhuddo o fod â machete, math o gyllell fawr, yn ei feddiant.
Mae tri o bobl eraill, Lewis Manito, 32, Connor Pitt, 23 a Storm Truman, 19, sydd hefyd yn dod o Weston-super-Mare wedi eu cyhuddo o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd, ond ni wnaethon nhw gyflwyno ple.
Bydd y tri yn ymddangos o flaen llys ddydd Iau nesaf, a bydd Mr Guster a Mr Wheeler yn cael eu dedfrydu mewn gwrandawiad ar ddyddiad sydd heb ei bennu.
Mae'r pump yn cael eu cadw yn y ddalfa.
'Dedfryd o garchar yn anochel'
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 01:25 fore Llun, 28 Gorffennaf yn dilyn adroddiadau o dân ar Stryd Protheroe, Glynrhedynog.
Bu'n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu.
Dywedodd y barnwr, Simon Mills: "Yn amlwg, mae hwn yn achos difrifol ac mae angen i chi ddeall fod dedfryd o garchar yn anochel - ond rydw i am ofyn, yn eich achosion chi, am baratoi adroddiadau cyn dedfrydu yn syth.
"Ni fydd modd dechrau'r broses honno nawr gan nad yw'r achos llawn yn glir eto, ac o ganlyniad ni allaf ddweud wrthych chi pryd fydd y dedfrydu yn digwydd."
- Cyhoeddwyd6 Awst
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.