Cerddoriaeth amgylchynol yn ffordd o 'ddianc rhag y byd go iawn'

Math o gerddoriaeth sy'n rhoi mwy o bwyslais ar sain ac awyrgylch nac ar strwythur, rhythm ac alaw yw cerddoriaeth amgylchynol
- Cyhoeddwyd
Gwrando ar sŵn glaw ar y to, neu glychau'n seinio - mae nifer y bobl sy'n troi at gerddoriaeth amgylchynol (ambient) i'w helpu dygymod â'u bywydau prysur ar gynnydd.
Hanner canrif yn ôl, carfan fechan yn unig oedd yn gwrando ar y genre.
Ond bellach mae gwrando ar restrau cerddoriaeth o'r math yma'n rhan o fywyd bob dydd i filiynau, ar wasanaethau ffrydio fel Spotify ac Apple Music.
Felly, pam bod cerddoriaeth amgylchynol mor boblogaidd ar hyn o bryd?
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd20 Mehefin
"Dianc rhag y byd go iawn" yw disgrifiad Huw Roberts o'r rheswm bod y math yma o gerddoriaeth yn denu cynifer.
Mae'r datblygwr gwefannau o Gas-gwent yn cyfaddef fod ganddo "ddibyniaeth" ar gerddoriaeth amgylchynol.
"Dwi'n cael llond bol ar y newyddion, a dwi eisiau dianc rhagddo, ond dwi ddim yn mynd i roi'r ffôn i lawr," meddai.
"Dwi'n defnyddio fy ffôn i geisio dianc rhagddo."

Mae Huw Roberts yn rhyddhau cerddoriaeth dan yr enw Hidden Rivers, ac yn dweud ei fod "yn ffordd i fi fynd i rywle arall am ychydig"
Cerddoriaeth gyda sain tawel oedd at ddant Huw o oedran ifanc iawn.
Dechreuodd ganu'r piano yn saith oed, ac mae'n cofio "eistedd yno, a chwarae'n dawel iawn gyda'r pedal cynnal".
Yn 2005 sefydlodd label cerddoriaeth amgylchynol Serein.
Cafodd lwyddiant cynnar tra'n cydweithio gyda'i ffrind Otto Totland ar waith o'r enw Nest - cyfuniad o'r delyn, piano a synau eraill.
Cafodd pob copi CD a record finyl eu gwerthu.
"Dyma fe jyst yn mynd o ddifri', ac allai ddim dweud pam... Fe roddodd e'r hyder i mi gario 'mlaen," meddai Huw.
Er bod ei gerddoriaeth yn apelio at selogion gan fwyaf, ers y pandemig mae'r genre yn cyrraedd miliynau.

Mae Sophie Harris, 35, yn gwrando ar gerddoriaeth sy'n cael ei ysbrydoli gan Lord of the Rings
Mewn swyddfa aml-ddefnydd yng Nghaerdydd, mae staff asiantaeth gyfathrebu Equinox yn cwrdd bob dydd Mercher.
Mae pob un ohonyn nhw'n defnyddio cerddoriaeth amgylchynol mewn ffurfiau gwahanol.
I'r cyd-gyfarwyddwr Sophie Harris, mae cerddoriaeth a gafodd ei ysbrydoli gan fyd dychmygol JRR Tolkein yn ei helpu i ganolbwyntio ar ysgrifennu.
"Rwy'n hoffi mynd i Middle-earth pan dwi'n gweithio," meddai.
"Chi'n gallu dewis teyrnasoedd gwahanol... falle allech chi fynd i Gondor am y p'nawn."
Nid Sophie yn unig sy'n mwynhau mynd i fyd Tolkein yn sicr - mae fideo Middle-earth – Rivendell Music & Ambience wedi cael ei wylio 22 miliwn o weithiau ar YouTube.
"Dwi wedi gwneud hyn am flynyddoedd," meddai Sophie.
"Dwi'n meddwl bod pobl yn ei weld yn llai anghyfarwydd pan dwi'n sôn amdano'r dyddiau yma."

Dywedodd Carys Williams fod cerddoriaeth amgylchynol yn ei helpu i dynnu ei sylw oddi ar gyfryngau cymdeithasol
Dechreuodd Carys Williams, 22, wrando ar gerddoriaeth amgylchynol pan yn astudio Safon Uwch.
Bellach, mae'n rhywbeth mae'n ei wneud yn ddyddiol yn y gwaith, ac yn ei helpu i dynnu ei sylw oddi ar apiau fel Snapchat ac Instagram.
"Dwi'n gwrando ar restr ar Spotify o'r enw Peaceful Retreat.
"Os dwi'n gwrando ar gerddoriaeth gyda geiriau... dwi'n dechrau canu a dawnsio, dwi ddim wir yn canolbwyntio."

Drum & Bass yw hoff gerddoriaeth Caroline Hodges, ond mae'n gwrando ar gerddoriaeth amgylchynol i ymlacio
Mae ei chydweithiwr Caroline Hodges yn ei ddefnyddio i'w helpu i ymlacio ar ddiwedd y dydd, ac mae'n credu bod ei defnydd o gyfryngau cymdeithasol wedi effeithio ar ei gallu i ddadflino.
"Dwi wastad wedi hoffi cael peth sain i fy helpu i fynd i gysgu.
"Mae gen i'r holl feddyliau yn fy mhen, fel 'nes i ddim rhoi'r golch ymlaen'.
"Dwi yn ei chael hi 'chydig yn anoddach nawr i dawelu fy meddwl."

Mae Helen Wild yn gwrando ar seiniau sy'n cyfleu awyrgylch caffi pan mae hi'n gweithio adref
Mae Helen Wild, rheolwr gyfarwyddwr yr asiantaeth, yn "hapus iawn" i'w thîm ddefnyddio cerddoriaeth amgylchynol tra'n gweithio.
Mae hi'n cyfaddef er hyn, pan iddi ddechrau gyda'r asiantaeth "fasech chi byth, byth yn gwisgo clustffonau yn y swyddfa", achos y byddai'r tîm yn "ateb y ffôn yn ddi-baid".
Bellach, mae'n gweld bod cerddoriaeth amgylchynol yn ffordd i annog creadigrwydd a "gweithio mewn ffordd fwy effeithlon".
'Roi caniatâd i'ch hunan stopio'
Mae James Kilner, athro niwrowyddoniaeth yng Ngholeg Prifysgol Llundain, yn credu bod cerddoriaeth amgylchynol yn rhoi "cyfnod o dawelwch ac o fyfyrio sydd o bosib ar goll mewn bywyd bob dydd".
"Ry'n ni'n cael ein bombardio gyda sawl peth gwahanol sy'n ein cynhyrfu" ar ein ffonau, meddai.
Ond gyda cherddoriaeth amgylchynol, mae'n "ffordd i chi roi caniatâd i'ch hunan stopio".

Cafodd y cerddor Richard Norris lwyddiant gyda chaneuon fel Swamp Thing yn yr 1990au
Datblygodd diddordeb proffesiynol yr Athro Kilner mewn cerddoriaeth amgylchynol oherwydd ei gyfeillgarwch gyda'r cerddor Richard Norris.
Cafodd yntau lwyddiant yn y siartiau yn yr 1990au gyda chaneuon fel Swamp Thing a Floatation pan yn rhan o grŵp cerddoriaeth ddawns The Grid.
Bum mlynedd yn ôl, fe newidiodd ei ddiddordebau cerddorol, ar ôl ffraeo treisgar y tu allan i'w fflat yn Llundain.
"Roedd yn teimlo'n [lle] anniogel am ychydig," meddai Richard.
Penderfynodd greu "gofod sonig diogel" yn ei stiwdio drwy "recordio darnau amgylchynol hir iawn".
Bellach, mae'n dweud ei fod yn cael mwy o adborth penodol gan gefnogwyr o'i waith amgylchynol "nac unrhyw fath arall o gerddoriaeth dwi wedi'i greu".
"Roedd pobl yn dod ata i a dweud mae hyn wir yn helpu gydag iselder neu orbryder," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.