Pryder am effaith ffrydio ar gerddoriaeth Gymraeg

Beti a Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Roberts ydy'r gwestai ar raglen Beti a'i Phobol yr wythnos hon

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cerddor a chyn-brif weithredwr Recordiau Sain, Dafydd Roberts yn pryderu am effaith ffrydio ar y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.

Dywedodd fod y sin yn iach ar hyn o bryd, ond bod artistiaid yn dioddef gan fod ffrydio digidol mor boblogaidd, a chanran yr arian sy'n cael ei dalu i'r artistiaid a chyfansoddwyr yn isel.

Mae'n dweud mai'r ffordd i osgoi'r "difrïo" yma i gerddoriaeth ydy gwneud mwy o gigs a cheisio gwerthu CDs neu finyl o'u gwaith, fel sy'n dal yn ffasiynol yn Ewrop.

Bu Dafydd Roberts yn teithio ar draws Prydain ac Ewrop yn yr 1980au fel cerddor proffesiynol gyda'r grŵp gwerin Ar Log.

Yn ddiweddarach bu'n gweithio yn y cyfryngau cyn dod yn brif weithredwr cwmni Recordiau Sain, pan roedd yn flaengar yn sefydlu Eos, asiantaeth casglu breindaliadau cerddorion Cymraeg.

Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd Mr Roberts bod sefyllfa iach cerddoriaeth Gymraeg yn amlwg ymhob Eisteddfod gan fod cymaint o gyngherddau a gigs gwahanol.

Ychwanegodd bod safon y gwaith gan artistiaid Cymraeg o bob genre yn uchel, a bod diddordeb gan bobl mewn clywed cerddoriaeth o wledydd a diwylliannau gwahanol.

Ond gan fod cymaint o'r gynulleidfa nawr yn cael eu cerddoriaeth drwy gwmnïau ffrydio enfawr, mae'n dweud fod y diwydiant yn cael ei effeithio.

"Be' sydd yn poeni rhywun ydi'r busnes ffrydio yma," meddai.

"Mae o'n wych o ran y gwrandawyr - mae rhywun yn gallu cael unrhywbeth mae o isio o'r byd bron - ac mae'n wych o ran hyrwyddo i artistiaid sydd isio hyrwyddo eu cerddoriaeth, a'i fod o ar gael yn syth ar draws y byd.

"Ond mae'r model dwi'n ofni yn difrïo gwerth cerddoriaeth o ran yr artist a'r cyfansoddwr, achos traean o geiniog (sy'n cael ei dalu) am bob ffrwd - dydi'r model fel yna ddim yn mynd i weithio.

"Mae'n gweithio wrach i'r cwmni ffrydio, ond dwi ddim yn siŵr os 'neith o weithio i'r labeli (recordio) chwaith achos dyna faint ma'r label yn ei gael, ac wedyn maen nhw'n gorfod talu canran i'r artistiaid."

Mae cwmni ffrydio mwya'r byd - Spotify - wedi dweud yn y gorffennol bod 70% o'u refeniw yn mynd i'r bobl sy'n berchen ar hawlfraint y gerddoriaeth.

Ar LogFfynhonnell y llun, Ar Log
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Roberts, ar y dde, gydag Ar Log - band sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 50 oed y flwyddyn nesaf

Dywedodd mai'r ateb oedd i fandiau wneud mwy o'r gwaith traddodiadol o wneud cyngherddau a gigs er mwyn cael taliad am berfformio a chael cysylltiad uniongyrchol gyda'u dilynwyr - a chwsmeriaid posib.

"Mae CDs yn dal i werthu yn bendant mewn gigs, a hefyd dramor yn Ewrop - dydyn nhw ddim yn or-awyddus i fynd ar-lein, mae'n well ganddyn nhw brynu CD," meddai Mr Roberts.

"Rydyn ni wedi gweld hynny o deithio yn ddiweddar yn bendant - mae pobl isio prynu CD neu LP neu beth bynnag."

32.4 miliwn yn ffrydio yn y DU

Ychwanegodd mai dyna fydd Ar Log yn ei wneud y flwyddyn nesa' i nodi hanner can mlwyddiant y band.

Fe fydd y grŵp yn rhyddhau eu hwythfed albwm ac yn mynd ar daith o 30 o gyngherddau, gan gynnwys chwarae yn yr Almaen am bythefnos.

Mae bron i hanner poblogaeth y Deyrnas Unedig - 32.4 miliwn o bobl - yn talu i ddefnyddio apiau ffrydio fel Spotify ac Apple Music, yn ôl cwmni MIDiA Research, sy'n ymchwilio i'r diwydiant cerddoriaeth.

Gall artistiaid dderbyn canran uwch o'r elw o werthu CD neu record ar ôl talu'r gost o'u cynhyrchu.

Mae taliadau i fandiau chwarae mewn gigs yng Nghymru yn amrywio yn ôl y lleoliad a phoblogrwydd y grwpiau.

Mae cais wedi ei wneud i'r brif lwyfannau ffrydio am ymateb.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig