Guto Harri yn galw ar Andrew RT Davies i ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Mae angen "arweiniad newydd" ar y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, ac i'r blaid ddangos nad ydyn nhw ond "yno am y cyflog" yn ôl cyn-gyfarwyddwr cyfathrebu Boris Johnson yn Downing Street.
Dywedodd Guto Harri wrth BBC Radio Wales Breakfast bod Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd angen "pwrpas a gwir synnwyr o uchelgais o ran pam maen nhw yna".
Andrew RT Davies yw arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd ers dychwelyd i'r rôl ddechrau 2021.
Ond yn ôl ffynhonnell sy'n agos at Mr Davies, mae Mr Harri "yn troi o fewn cylchoedd cenedlaetholgar Cymreig" sy'n cynnwys unigolion "nad sydd â buddion y Blaid Geidwadol Gymreig mewn golwg".
'Yna i gynnig dewis amgen'
Dywedodd Guto Harri ar y rhaglen ddydd Mawrth: "Wna'i fod yn ddi-flewyn-ar-dafod a dweud fy mod yn meddwl bod y Blaid Geidwadol yn y Senedd angen arweiniad newydd, synnwyr o bwrpas a gwir synnwyr o uchelgais o ran pam maen nhw yna.
"Dydyn nhw ddim yno ond i gael cyflog. Maen nhw yno i gynnig dewis amgen i'r hyn sydd wedi bod, hyd yma, yn wladwriaeth un blaid trwy holl gyfnod datganoli."
Nododd taw "prawf mawr" cyntaf arweinydd nesaf Ceidwadwyr y DU, yn dilyn etholiad mis Tachwedd, fydd etholiadau Senedd Cymru a Senedd Yr Alban yn 2026.
Dywedodd Mr Harri ei fod yn gobeithio y bydd y chwe ymgeisydd yn canolbwyntio'n "llwyr" ar y realiti yna "dros yr wythnosau nesaf".
Dywedodd Andrew RT Mr Davies fis diwethaf nad oedd yn teimlo bod ei swydd dan fygythiad, yn sgil sylwadau dadleuol ynghylch cig halal mewn ysgolion ac ymddiheuriad gan un o aelodau ei grŵp dros ddefnyddio term hiliol.
Fe gafodd ei feirniadu hefyd gan un o'i ragflaenwyr, yr Arglwydd Nick Bourne, dros neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn ysgogi dadl ynghylch a ddylid diddymu'r Senedd.
Mynnodd Mr Davies ei fod ond yn ceisio barn y cyhoedd mewn sioe amaethyddol, ac fe danlinellodd nad yw'n bolisi gan ei blaid, na'i hun yn bersonol, y dylid diddymu'r Senedd.
Tua'r un pryd fe fynegodd rhai Aelodau Ceidwadol o'r Senedd bryderon yn breifat ynghylch negeseuon Mr Davies ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd un bod y negeseuon yn gynyddol "anodd eu hamddiffyn" a phe byddai pethau'n parhau ar yr un trywydd y byddai ei sefyllfa yn "anghynaladwy".
'Taro tant gyda'r cyhoedd'
Mewn ymateb i sylwadau Guto Harri fe gyhuddodd ffynhonnell sy'n agos at Andrew RT Davies y sylwebydd gwleidyddol o droi "o fewn cylchoedd cenedlaetholgar Cymreig".
"Does gan y bobl hyn mo fuddiannau'r Blaid Geidwadol Gymreig mewn golwg - dim ond eu hawydd i ehangu datganoli," dywedodd.
"Mae gwrthwynebiad Andrew i greu 36 yn rhagor o wleidyddion yn y Senedd yn boblogaidd ac yn taro tant gyda'r cyhoedd, gan greu gwahaniaeth amlwg gyda Llafur a chenedlaetholwyr Plaid Cymru.
"Mae'r rheiny sydd eisiau disodli Andrew ag obsesiwn â ffugio cydsyniad ar gyfer datganoli mwy o bwerau, ac maen nhw'n gwybod na fydd yn gadael i hynny ddigwydd."
Yn ei gyfweliad ddydd Mawrth, fe holwyd Mr Harri hefyd ynghylch penderfyniad y cyn Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol, David TC Davies i dderbyn swydd fel uwch ymgynghorydd i'r AS Laura Anne Jones, sy'n destun ymchwiliad heddlu dros dreuliau.
Fe gollodd Mr Davies sedd Mynwy yn etholiad cyffredinol mis Gorffennaf.
Dywedodd Mr Harri ei fod "wedi gwneud cyfraniad mawr i wleidyddiaeth Cymru, yn y Senedd - neu'r Cynulliad fel yr oedd ar y pryd - ac yna yn San Steffan".
Ychwanegodd ei fod "yn ymroddgar eithriadol i Gymru, felly mae'n dda i'w weld yn rhan [o wleidyddiaeth Cymru] yn hynny o beth".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst
- Cyhoeddwyd11 Awst
- Cyhoeddwyd8 Awst