Cyhoeddi manylion 'cyfnod paratoi' i ffermwyr Cymru

Defaid yn pori
Disgrifiad o’r llun,

Mae un o'r cynlluniau ariannol fydd ar gael yn 2025 yn gwobrwyo ffermwyr am gyd-weithio ar gynlluniau natur

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cynlluniau fydd ar gael i gefnogi ffermwyr yn ystod y "cyfnod paratoi" ar gyfer newid dadleuol i'w cymorthdaliadau wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Daw yn dilyn y penderfyniad i oedi cyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy am flwyddyn arall, yn sgil protestiadau.

Bydd 2025 bellach yn cael ei thrin fel cyfnod pontio cyn troi at y drefn newydd, wrth i fanylion terfynol y cynllun cymhorthdal parhaol gael eu trafod.

Bydd y cynlluniau ariannu presennol sydd ar gael i ffermwyr yn parhau, gyda chynllun newydd yn cael ei gyflwyno hefyd i wobrwyo ffermydd sy'n gweithio ar y cyd er lles natur.

Mae'r llywodraeth hefyd yn galw ar ffermwyr i gymryd rhan mewn "ymarfer cadarnhau data", er mwyn rhoi darlun cliriach o'r tir cynefin a'r gorchudd coed sydd ganddyn nhw.

Daw'r cyhoeddiad ar drothwy'r Sioe Fawr yn Llanelwedd.

Bydd y prif gymhorthdal y mae ffermwyr yn ddibynnol arno - y cynllun taliad sylfaenol - yn parhau yn 2025.

Felly hefyd - Cynllun Cynefin Cymru a'r Taliad Cymorth Organig.

Bydd gwaith corff Cysywllt Ffermio - sy'n darparu cyngor i ffermwyr a'u helpu i arloesi - yn cael ei ymestyn hyd at 2026.

Mae'r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig newydd ar gyfer 2025 - i gefnogi partneriaethau rhwng ffermwyr sy'n hybu natur ar draws ardaloedd eang.

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd cyfres o brotestiadau gan ffermwyr ar draws Cymru yn ystod 2024

Dywedodd Huw Irranca-Davies, yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, mai bwriad cyhoeddi'r cynlluniau oedd "rhoi sicrwydd i ffermwyr y bydd yna gymorth iddyn nhw yn y cyfnod cyn 2026".

"Byddwn yn parhau i weithio gyda ffermwyr a pherchenogion tir trwy Ford Gron Gweinidogol i lunio'r Cynllun terfynol a rhoi sicrwydd ynghylch y cymorth a fydd ar gael yn y dyfodol cyn gynted â phosibl," meddai.

"Gan ddibynnu ar faint o arian fydd ar gael, byddwn yn cadarnhau cynlluniau cymorth ychwanegol 2025 yn ddiweddarach eleni.

"Rydyn ni am weld diwydiant ffermio cynaliadwy sy'n cefnogi cymunedau gwledig ffyniannus a'r iaith Gymraeg - cynaliadwy ym mhob ystyr y gair."

Pynciau cysylltiedig