Dynes o Wynedd wedi marw ar ôl disgyn o gwch ar wyliau

- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth dynes o Wynedd farw ar ôl iddi syrthio oddi ar gwch i mewn i gamlas tra ar wyliau, clywodd cwest.
Roedd Margaret Billings, 78, wedi mynd yn sownd rhwng cwch a'r lan yng nghamlas Avon yn Wiltshire.
Fe glywodd Llys y Goron Wiltshire a Swindon fod Mrs Billings, o Benrhyndeudraeth, wedi marw ar safle'r digwyddiad ar 27 Mehefin.
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd ei gŵr, Michael eu bod wedi bod yn briod am 51 o flynyddoedd ac wedi bod ar wyliau ar gychod sawl tro.
Dywed Mr Billings eu bod ar wyliau am wythnos gyda chriw o ffrindiau a'u bod yn angori'r cwch yn Devizes pan ddigwyddodd y ddamwain.
Fe wnaeth parafeddygon ddod i'r safle yn sydyn, ond nid oedd modd achub bywyd Mrs Billings.
'Anafiadau sylweddol i'w brest a'i phen'
Fe wnaeth archwiliad post-mortem ganfod ei bod wedi marw o anafiadau o ganlyniad i fod yn sownd rhwng y cwch ac ochr y gamlas.
Dywedodd y Crwner Ian Singleton fod Mrs Billings "wedi bod ar 20 siwrne debyg yn y gorffennol ac o ganlyniad yn brofiadol".
Dywedodd: "Wrth i'r cwch nesáu at Devizes, roedd Margaret yn sefyll ar y cwch, ryw dair troedfedd i ffwrdd o'r starn, gan ddal gafael â'r cwch ag un llaw.
"Mewn amodau sydd yn parhau i fod yn aneglur, fe wnaeth Margaret adael y cwch ac roedd yn y dŵr rhwng y cwch a'r bancyn, gyda'r bwlch rhwng y ddau yn mynd yn llai."
Aeth ymlaen i ddweud fod Margaret wedi ei dal "rhwng y cwch a'r bancyn, a achosodd iddi gael anafiadau sylweddol i'w brest a'i phen".
Fe wnaeth y crwner gofnodi bod y farwolaeth yn ddamwain.