Dwy long wedi taro glanfa oedd achos cau Porthladd Caergybi

PorthladdFfynhonnell y llun, Chris Willz Photography
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth glanfa ddymchwel ar ôl cael ei tharo gan ddwy long

  • Cyhoeddwyd

Bu'n rhaid cau Porthladd Caergybi ym mis Rhagfyr ar ôl i ddwy long "ddod i gysylltiad" gyda glanfa gan achosi i ran ohoni ddymchwel, yn ôl perchennog y porthladd.

Mewn tystiolaeth i Senedd Cymru, dywed Stena Line bod y difrod wedi ei achosi i'r lanfa a ddefnyddir "yn bennaf" gan gwmni Irish Ferries.

Dydy Stena ddim wedi dweud pa gwmni oedd bia'r llongau, ond dywedwyd bod un yn cyrraedd ar 6 Rhagfyr, tra bo'r llall yn gadael y diwrnod canlynol.

Dywed Stena bod y difrod wedi digwydd yn fuan cyn i Storm Darragh gyrraedd ei hanterth.

'Testun cais yswiriant'

Am 40 diwrnod dros gyfnod y Nadolig, roedd ail borthladd prysuraf y Deyrnas Unedig ar gyfer cerbydau ynghau.

Roedd effaith hynny i'w gweld am wythnosau yng Nghaergybi a thu hwnt, gyda tharfu mawr ar deithwyr, cwmnïau cludo a busnesau.

Wrth roi tystiolaeth i un o bwyllgorau San Steffan fis diwethaf, dywedodd un o benaethiaid Stena, sy'n rhedeg y safle, bod y porthladd wedi gorfod cau ar 7 Rhagfyr yn dilyn dau ddigwyddiad a achosodd ddifrod i un o lanfeydd y porthladd.

Ychwanegodd nad oedd modd mynd i fanylder am y digwyddiadau am eu bod "yn destun cais yswiriant".

Porthladd caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y porthladd ei ailagor yn rhannol ar 16 Ionawr

Ond mewn tystiolaeth ysgrifenedig at un o bwyllgorau Senedd Cymru, mae mwy o wybodaeth wedi dod i law.

Yn ôl Stena cafodd y difrod ei achosi gan ddwy long wahanol yn dod i gysylltiad gyda rhan o lanfa rhif tri, ac fe arweiniodd hynny at ddymchwel y rhan hynny o'r strwythur.

Dywed Stena hefyd bod y tywydd gaeafol wedi amharu ar y gwaith o asesu'r difrod, gan ychwanegu at yr oedi cyn gallu ailagor y porthladd.

Bydd cynrychiolydd o Stena yn wynebu cwestiynau ddydd Iau wrth i bwyllgor economi'r Senedd geisio cael mwy o atebion am yr hyn ddigwyddodd yng Nghaergybi.

Mae disgwyl i dros ddwsin o dystion roi tystiolaeth, gan gynnwys ysgrifennydd trafnidiaeth Llywodraeth Cymru Ken Skates, a'r ysgrifennydd economi Rebecca Evans.

Bydd eraill yn ymddangos ar ran y diwydiant cludo, y diwydiant hwylio a byd busnes.

Mae BBC Cymru'n deall na wnaeth Irish Ferries ymateb i gais gan y pwyllgor i roi tystiolaeth.

Mae'r BBC wedi cysylltu â'r cwmni am ymateb i hynny.

Cafodd y porthladd ei ailagor yn rhannol ar 16 Ionawr, a'r gobaith yw ei ailagor yn llawn ar 1 Gorffennaf.