Brett Johns: Pum ffaith ddysgon ni o'i sgwrs â Nigel Owens

- Cyhoeddwyd
Mewn podlediad newydd ar BBC Sounds mae'r cyn-ddyfarnwr rygbi rhyngwladol, Nigel Owens, yn cyfweld â wynebau cyfarwydd o'r byd chwaraeon, gan ofyn sut maen nhw'n delio â'r disgwyliadau o berfformio dan bwysau.
Mae'r podlediad, Nigel Owens Dan Bwysau, yn dechrau ar 4 Mawrth, a'r ymladdwr o Bontarddulais, Brett Johns, yw'r gwestai cyntaf.
Hefyd yn ymddangos ar y podlediad gyda Nigel fydd Elinor Snowsill, Ken Owens, Manon Lloyd, Iwan Roberts ac Aled Sion Davies.
I gyd-fynd gyda phennod Nigel â Brett, dyma bum peth ddysgon ni o'r sgwrs.
1) Mae bod yn ymladdwr cawell yn waith caled
Mae Brett yn ymarfer chwe diwrnod yr wythnos, ac fel arfer dwywaith y dydd.
Mae'n mynd i'r gampfa yn y bore cyn y gwaith, ac eto ar ôl dod adref. Ac weithiau mae hyd yn oed yn gwasgu trydedd sesiwn hyfforddi mewn i ddiwrnod!
Dim ond ar ddydd Sul caiff Brett orffwys. Ac ers y llynedd mae'n gwneud y mwyaf o'r amser rhydd prin, wedi iddo ddod yn dad am y tro cyntaf ym mis Mai i'w ferch, Beti.

Brett yn ymarfer gyda ymladdwr arall o Gymru, sydd newydd ymddeol oherwydd anafaiadau, Jack Shore
2) Roedd Brett yn blentyn tawel
Fe brofodd gyfnodau o gael ei fwlio yn yr ysgol gynradd ac uwchradd, ac roedd ei fam yn poeni ei fod yn blentyn tawel.
"Oedd Mam yn becso amdano fi, roedd hi eisiau creu yr hyder yma i edrych ar ôl fy hunan hefyd. O'n i'n 'neud [judo] lan i 16 oed.
"O'n i gyda breuddwyd o gyrraedd y gemau Olympaidd yn 2012 gyda judo. Ond dweud y gwir doeddwn i ddim yn ddigon da ym Mhrydain, ddim yn ddigon da yng Nghymru. Dweud y gwir doeddwn i ddim hyd yn oed ddigon da yn fy gym i."
Mae llys-dad Brett hefyd wedi bod yn ddylanwad pwysig arno, gan gefnogi ei diddordeb mewn judo o oed ifanc.
"Fi'n credu mae'r gair 'dad'... mae rhaid i ti haeddu hwnna. Roedd Andrew hefyd yn mynd â ni i'r ysgol, yn helpu Mam gyda talu am ddillad ysgol.
"Dyna pam mae e'n Dad i fi, ti'n gwybod."

Brett yn sgwrsio gyda Nigel Owens
3) Penderfynodd geisio troi'n broffesiynol yn 19 oed
Fe newidiodd bywyd Brett pan y gwnaeth ddarganfod campau crefft ymladd cymysg (MMA).
"Roeddwn i mewn house party yn Abertawe yn tua 15 neu 16 oed, a fi'n cofio gwylio UFC '98. Roedd hi'n tua 3 neu 4am. Wedyn wythnos ar ôl hynny es i syth i BJJ (Brazilian jiu-jitsu).
"Y peth oedd yn dda oedd y ffaith oedd fi gyda 12 mlynedd o judo tu ôl fi cyn dechrau.
"Roeddwn i'n gallu rhoi fy sgiliau judo mewn i rywbeth arall. O'n i'n cael head start cyn i'r bois eraill ddechrau.
"Ar ôl gwneud tri neu bedwar mis o hwnna o'n i wedi dechrau gwneud y bocsio a cic-bocsio.
"Oeddwn i jest eisiau cystadlu, oeddwn i jest eisiau gwneud rhywbeth.
"O'n i eisiau 'neud e jest i weld faint mor dda o'n i."

Yn dathlu buddugoliaeth yn erbyn Tony Gravely yn Raleigh, North Carolina, 25 Ionawr, 2020
Er i Brett greu argraff fawr ar ei hyfforddwyr, doedd ei fam ddim yn fodlon iddo ymladd. Felly fe arhosodd tan oedd yn 18 oed cyn wynebu ei ornest lawn gyntaf – ac roedd ei fam eisiau bod yno i'w wylio pan daeth yr amser.
Ar ôl pum gornest amatur, yn 19 oed fe benderfynodd Brett roi cynnig ar yrfa broffesiynol.
"Roedd MMA ar y pryd fel y Wild West. Oeddech chi'n gallu gwneud unrhywbeth oeddech chi eisiau.
"'Na gyd oedd wedi newid oedd y ffaith bod y ruleset wedi newid."
Bu Brett yn gweithio ym maes adeiladu a datblygu tir yn ogystal â dilyn gyrfa fel ymladdwr proffesiynol. Ond doedd hwn ddim yn gyfnod hawdd iddo.
"O'n i'n gweithio 7:30 tan 5, wedyn ymarfer ar ôl hwnna. Ond pob bore roeddwn i'n mynd ar y site ac seinio mewn, yna mynd i'r tŷ bach a llefen am 10 munud. O'n i'n casau e.
"Fi'n cofio y swydd olaf ar y site... roedd rhaid gwneud ciwb o goncrit. A fi'n cofio llefen yn gwneud y ciwbs yma, achos roeddwn i'n gwybod oedd e gyd yn wastraff os oeddwn i'n cario mlaen i wneud hyn."
4) Ar brydiau, mae effaith ymladd cawell ar ei gorff yn ei boeni
Yn ystod gyrfa Brett, mae mwy o sylw wedi ei roi i niwed hirdymor gall y gamp ei achosi. Mae meddygon ym mhob gornest sydd â'r hawl i ddod â gornest i ben os oes pryder fod cyfergyd neu anaf arall.
"Yn feddyliol dwi'n dda. Ond ti'n gweld e lot yn y bois eraill sydd wedi bod yn y gamp ers sbel.
"Ti'n gweld effaith CTE (Chronic Traumatic Encephalopathy) yn dod mewn. Fi'n gwybod bod lot o'r bois rygbi yn siarad am CTE.
"Mae'n ofnus pan ti'n siarad amdano fe, ond fi'n credu bod 90% o ymladdwyr yn ei roi e'n y gornel.
"Mae teulu fi wedi bod yn wych dros y blynyddoedd. Roedd fy mrawd yn dod i bob ffeit, fel rhywfath o safety blanket. Roedd e jyst yn rhywun o'n i'n gallu siarad i."

Brett yn cael ei bwyso cyn un o'i ornestau yn yr UFC (Ultimate Fighting Championship)
5) Parhau i ymladd er mwyn cefnogi'r teulu
Bellach yn 32 oed ac wedi 13 mlynedd o ymladd yn broffesiynol, mae Brett yn ymwybodol na all barhau i ymladd ar yr un lefel am gyfnod hir i ddod.
Er fod rhai ymladdwyr cawell yn parhau â'r gamp yn hwyrach i'w tridegau, mae Brett yn cyfaddef ei fod yn dechrau ystyried ei ddyfodol. Ond gan fod amodau cytundebau wedi gwella rywfaint yn ystod gyrfa Brett, mae'n awyddus i wneud y mwyaf o'r amser sydd ganddo yn weddill fel ymladdwr proffesiynol.
Mae Brett hefyd yn gweld cyfle i gael sicrwydd ariannol i'w deulu ifanc, gan fod ganddo bellach ferch fach o'r enw Beti.
"Y rheswm fi dal yn ymladd, yw oherwydd yn ariannol mae'r gamp yma ddim wedi bod yn dda i fi.
"Bydd rhai pobl yn gwrando i hyn a meddwl 'That's not a good thing'. Ond dwi'n ei ddefnyddio fel motivation – mae gen i Beti nawr. Mae'n rhaid i mi greu rhywfath o ddyfodol i fy nheulu.
"Fi wedi gwario biti pum neu chwe mlynedd yn meddwl beth sydd nesaf, a fi dal ddim yn siŵr."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd10 Mai 2024
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022