'Hyd at 10 atyniad twristiaeth mewn peryg o gau fel Oakwood'

OakwoodFfynhonnell y llun, Ifan Jones
  • Cyhoeddwyd

Mae ysgrifennydd Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru yn rhybuddio y gallai Parc Oakwood fod yr atyniad cyntaf o nifer i gau eleni os nad yw'r tymor twristiaid yn ffafriol.

Mae Ashford Price hefyd yn gadeirydd Dan-yr-Ogof - Canolfan Ogofau Arddangos Cenedlaethol Cymru.

"Alla i'm dweud wrthych chi pa atyniadau sydd yn y fantol, ond fel ysgrifennydd aelodaeth y Gymdeithas Atyniadau, alla i ddweud wrthych chi bod dyfodol hyd at 10 atyniad twristaidd yng Nghymru yn y fantol," meddai Mr Price wrth Cymru Fyw.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod twristiaeth yn gwneud cyfraniad hynod o bwysig i economi a bywyd y wlad ac y byddan nhw'n "cydweithio'n agos ac yn cefnogi'r sector wrth iddyn nhw wynebu heriau".

'Gwneud bywyd yn anodd'

Ychwanegodd Mr Price ei fod yn hynod o drist o glywed fod Parc Oakwood yn Sir Benfro yn cau ar unwaith.

"Ro'n i yn y diwrnod agoriadol... a dwi'n cydymdeimlo yn fawr gyda'r rheolwr a'r staff," meddai.

dan yr ogofFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y bobl sy'n ymweld â Dan-yr-Ogof wedi gostwng yn sylweddol ers y pandemig

Mae Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru (WAVA) yn cefnogi ac yn cynrychioli dros 80 o brif atyniadau ymwelwyr Cymru.

Cafodd y gymdeithas ei sefydlu yn 2020, a'i phrif ddiben yw cyflwyno safbwyntiau a phryderon ei haelodau i Lywodraeth Cymru, cynghorau sir a chyrff a sefydliadau masnach eraill.

Gan fanylu ar atyniad Dan-yr Ogof dywedodd Mr Price bod niferoedd y bobl sy'n ymweld â'r safle yn Abercraf ger Ystradgynlais wedi gostwng yn sylweddol ers y pandemig.

"Rhwng Ebrill a diwedd Chwefror y llynedd roedd nifer yr ymwelwyr oddeutu 75,000, a chwe blynedd yn ôl - cyn Covid - roedd y nifer yn 120,000," meddai.

"Rwy'n teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud bywyd yn anodd i dwristiaeth yng Nghymru, a hynny yn ddiangen."

'Allwn ni ddim cario ymlaen fel hyn'

Ychwanegodd: "Mae'r rheol bod yn rhaid llenwi eiddo am 182 diwrnod i fod yn gymwys i dalu treth busnes yn anodd, ac ar ben hynny mae'r dreth dwristiaeth yn mynd i fod yn ergyd arall i ni.

"Yn y flwyddyn ddiwethaf mae 29% yn llai o ymwelwyr wedi aros dros nos yng Nghymru, ac mae'r dreth dwristiaeth yn sicr o waethygu'r sefyllfa wrth i deuluoedd orfod talu £1.50 y pen (pan yn cynnwys TAW) a hynny am bob plentyn hefyd.

"Yn ddiweddar mae o leiaf tri atyniad wedi cau - yn eu plith Llancaiach Fawr.

"Allwn ni ddim cario ymlaen fel hyn."

'Cydweithio a chefnogi'r sector'

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y newyddion am barc Oakwood "yn newyddion gofidus i'r staff, eu teuluoedd a'r ardal".

Wrth ymateb i bryderon y diwydiant twristiaeth dywedodd llefarydd bod twristiaeth yn gwneud cyfraniad hynod o bwysig i economi a bywyd Cymru ac y byddan nhw yn "cydweithio'n agos ac yn cefnogi'r sector wrth iddyn nhw wynebu heriau".

Dywedodd yr ysgrifennydd economi, Rebecca Evans yn y Senedd ddydd Mercher y dylai unrhyw atyniadau sydd mewn trafferthion gysylltu â Llywodraeth Cymru "cyn gynted â phosib".

"Gallwn ni asesu opsiynau gyda'r busnesau hynny er mwyn darganfod a oes ffordd y gallwn ni gydweithio er mwyn sicrhau cynllun mwy cynaliadwy yn y tymor hir," meddai.

O ran y dreth dwristiaeth dywed Llywodraeth Cymru ei bod hi'n deg bod ymwelwyr yn cyfrannu tuag at gyfleusterau lleol, gan helpu i ariannu gwasanaethau sy'n hanfodol i'w profiad.

Ychwanegodd y byddai arian sy'n cael ei godi drwy'r dreth yn cael ei gadw gan awdurdodau lleol a'i ail-fuddsoddi yn eu hardaloedd lleol i gefnogi "twristiaeth leol, gynaliadwy".

"Mae'n gyfraniad bach a allai wneud gwahaniaeth mawr," meddai'r llywodraeth.