Y Chwaer Miranda: Bywyd o wasanaethu Duw a chymuned Caergybi
- Cyhoeddwyd
Roedd y Chwaer Miranda Richards yn 17 oed pan benderfynodd ei bod am fyw bywyd fel lleian.
Bellach, a hithau yn 80 oed, mae hi'n un o dair lleian sydd ar ôl yng nghwfaint Missionary Sisters of the Gospel yng Nghaergybi.

Cafodd y Chwaer Miranda Richardson ei ffilmio ar gyfer rhaglen ddogfen yn 2021
Roedd cymuned fywiog o leianod yn y cwfaint ar un adeg, ac ysgol cysylltiedig oedd â hyd at 150 o ddisgyblion ar ei hanterth.
I'r ysgol hon yr aeth Miranda; y sbardun, o bosib, a achosodd iddi ddewis dreulio ei bywyd yn gwasanaethu Duw fel lleian.
"Fe es i'r ysgol yn 12 oed. Roeddwn i yna tan o'n i'n 16, a 'nes i ymuno â'r cwfaint yn 17 oed. Yn ifanc iawn – rhy ifanc efalle!" eglurodd ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru.
"Mae pethau wedi newid ers hynny. 'Sa pobl ddim yn ymuno mor ifanc heddiw. Maen nhw'n gorffen eu haddysg, neu gael rhyw brofiad o weithio."
Eitem o raglen Heddiw yn 1977: Beti George yn cyfweld â'r Chwaer Miranda Richards
'Syrthio mewn cariad â Duw'
Eglurai mai'r rheswm dros wneud penderfyniad o'r fath oedd am iddi syrthio mewn cariad â Duw, a "chlywed yr alwad i roi fy holl fywyd i wasanaethu mewn unrhyw ffordd fel lleian".
Penderfyniad mawr i'w wneud, a hithau ond yn ei harddegau.
Felly, dros 60 mlynedd yn ddiweddarach, ydi hi erioed wedi difaru'r dewis neu deimlo ei bod wedi colli allan ar rai o brofiadau eraill bywyd?
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n eitha' normal i feddwl hynny weithiau, fel fyddai gwraig priod yn difaru ei bod hi wedi priodi, efallai, pan mae'r plant yn gwneud lot o sŵn!
"Ond nid yn ddwfn, nid go wir. Mae 'na gwestiynau bob amser, achos dydi bywyd ddim yn hawdd bob amser, ond dydw i ddim yn difaru mod i wedi dewis bywyd lleian."
"Dydw i ddim yn difaru mod i wedi dewis bywyd lleian"
Y Chwaer Miranda Richards yn siarad ar Dros Ginio
Gweithio'n y gymuned
Mae'r urdd mae Miranda yn rhan ohoni yn un sydd yn cenhadu i'r gymuned, sydd yn wahanol i leiandai eraill mwy caeëdig, sydd "ddim yn fywyd hawdd".
Roedd Miranda ei hun yn athrawes Ffrangeg ac yn brifathrawes yn yr ysgol roedd hi'n ddisgybl ynddi. Yn anffodus, bu'n rhaid i'r ysgol honno gau yn ôl yn yr 1980au, ac mae rôl y lleian yn y gymuned wedi gorfod newid gyda'r oes, eglura.
"Tua can mlynedd yn ôl, roedd gan leianod sefydliadau, fel ysgolion, ysbytai. Erbyn hyn, dydyn ni methu cynnal sefydliadau felly ac mae llai o leianod. Maen nhw dal i fod mewn addysg neu iechyd, ond yn gweithio mewn ysgolion eraill.
"Mae'r gwaith wedi newid, mewn ffordd. 'Dan ni falle yn gweithio mewn sefydliadau heddwch a chyfiawnder a gwaith cymdeithasol, neu nyrsio yn y gymdeithas."

Roedd ysgol Bon Sauveur yn gwasanaethu Caergybi o ddechrau'r 20fed ganrif tan fu'n rhaid iddo gau yn yr 1980au; un o'r rhesymau oedd cost cynnal a chadw'r adeilad
Mae Miranda a'i dwy chwaer arall yn y cwfaint dal yn brysur, er eu bod wedi ymddeol erbyn hyn; mae'r galw am eu gwaith yn y gymuned yn parhau.
"'Dan ni'n tair yn ein 80au ond yn eitha' iach, diolch byth. A 'dan ni i gyd yn gweithio yn y plwy', yn gwirfoddoli; yn ymweld â theuluoedd, neu bobl sy'n byw ar eu pen eu hunain neu'n ymweld â rhai mewn galar, trefnu angladd.
"Cymryd gwasanaeth yn absenoldeb offeiriad, achos does 'na ddim lot o offeiriaid ar ôl rŵan chwaith. Dim ond un offeiriad sydd ar yr ynys, felly mae'n rhaid i bawb helpu.
"'Dan ni ddim yn gwneud dim byd fasai lleygwyr eraill ddim yn ei wneud, ond falle bod ni'n gwneud mwy ohono fo."

Y Chwaer Miranda (ar y dde, yn y cefn) gyda rhai o'i chyd-leianod yn yr 1970au
Y diwedd ar ddod?
Mae lleiandy wedi bod ar y safle yng Nghaergybi ers 1907 pan ddaeth chwiorydd yr urdd Le Bon Sauveur - fel oedd ei enw bryd hynny - draw o Ffrainc.
Dyma unig gwfaint yr urdd yng Nghymru, ac mae'r Chwaer Miranda yn cydnabod fod yr urdd wedi lleihau yn aruthrol dros y degawdau, a hynny ledled y byd.
"Mae'n edrych yn dywyll, hyd yn oed yn Ewrop, gyda'r lleianod sydd gyda ni yn Ffrainc, Sbaen, Yr Eidal – does yna neb yn Ewrop o dan 60 oed. Mae'n lleianod ifanc ni i gyd yn dod o wledydd Affrica neu Madagascar."
Gyda'r un lleian ifanc i'w dilyn yn y cwfaint yng Nghaergybi, rhaid wynebu'r ffaith felly mai Miranda a'i chyd-chwiorydd fydd y rhai olaf yno. Ond nid yw Miranda yn digalonni'n ormodol am hyn, meddai:
"Rhyw dro, bydd y cwfaint yng Nghaergybi yn cau, ac mae hynny'n drist. Ond ar y llaw arall, os ydyn ni wedi gwneud ein gwaith, mae'n rhaid i ni ddiolch i Dduw.
"Does neb erioed wedi dweud y byddai'r lleiandy yn para' am byth; dwi ond yn gobeithio y bydd yr eglwys yn para' am byth."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd19 Mai 2024
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2024