Dydd Mawrth Ynyd, crempog bob munud
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Dydd Mawrth Ynyd yw'r diwrnod traddodiadol i wledda ar grempogau (neu bancos/cramoth/ffroes), ac mae'r hen ddywediad "Dydd Mawrth Ynyd, crempog bob munud" yn wir i nifer.
Mardi Gras (Dydd Mawrth Tew) yw'r enw ar y diwrnod mewn llawer o wledydd Catholig gan mai'r arferiad oedd i fwyta pob math o fwydydd a danteithion cyn dechrau ymprydio ar Ddydd Mercher Lludw ar gyfer y Grawys, sef y 40 diwrnod cyn y Pasg.
Yng Nghymru mae'n hen ŵyl ddaeth yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol.
Gan fod cyfnod hir o ymprydio o'u blaen, roedd pobl yn arfer bwyta'r olaf o'u menyn a saim yn y tŷ trwy wneud crempogau.

Disgyblion o Ysgol Hengoed yn dysgu sut i wneud crempogau yn 1938
Os gwelwch yn dda ga i grempog?
Mewn rhannau o'r wlad hyd at ddechrau'r 20fed ganrif, roedd plant yn mynd o dŷ i dŷ i ofyn am grempogau: tebyg iawn i'r traddodiad o hel Calennig adeg y Calan.
Daw un o'n caneuon gwerin mwyaf adnabyddus o'r arfer yma, sef Modryb Elin Enog:
Modryb Elin Enog
Os gwelwch yn dda ga i grempog?
Ma mam yn rhy dlawd i brynu blawd
A Sian yn rhy ddiog i nôl y triog
A nhad yn rhy wael i weithio
Os gwelwch yn dda ga i grempog?

Ond sut beth oedd y crempogau roedd y plant yn eu derbyn? Roedd hyn yn dibynnu ar y cyfnod a'r ardal:
Cramoth eira - yn draddodiadol ym mryniau Morgannwg a Sir Gaernarfon, roedd pobl yn defnyddio eira yn lle wyau i ysgafnhau'r cytew yn y crempogau!
Crempog llaeth enwyn - ar ôl eu gwneud, trochi'r crempogau mewn llaeth enwyn sur, ffres.
Crempog facynog - crempogau sy'n cynnwys darnau bach o gig moch yn y cymysgedd.
Crempog las - fersiwn iach, yn cynnwys sibwns a phersli.

Dawns flynyddol Dydd Mawrth Crempogau Trewern yn 1940
Crempog bob dydd?!
Mae'r gair 'crempog' yn perthyn i'r Llydaweg 'krampouezh', ac roedd hi'n draddodiad i'w coginio ar sawl achlysur drwy'r flwyddyn yng Nghymru a Llydaw.

Krampouezh o Lydaw
Mae'r hanesydd bwyd, Carwyn Graves, yn cofio sylwi ar hyn pan aeth i ymweld ag aelod hŷn o'r capel yn ardal Caerfyrddin:
"Wrth fy nghroesawu, dyma hi'n dechrau paratoi pancos i ni gael gyda phaned - a dyma sylweddoli i mi gofio hyn yn digwydd gyda pherthnasau hŷn ar hyd fy mhlentyndod.
"Mae'r dystiolaeth yn glir iawn bod paratoi crempogau i ymwelwyr yn beth cwbl normal trwy lawer o Gymru hyd yn ddiweddar. Nid yn unig hynny, ond crempogau oedd yn cael eu defnyddio i ddathlu pen-blwyddi a dathliadau eraill ar draws y flwyddyn hefyd gan lawer."

Ras grempogau yn Rhuthun yn 2017
Felly mae'n rhan o'r traddodiad Cymreig i chi fwyta crempog ar unrhyw ddiwrnod o'r flwyddyn, nid dim ond ar Ddydd Mawrth Ynyd, felly ewch amdani!
Ond cofiwch am gyngor Thomas Jones yn ei Almanac yn 1688; 'os digwydd neb i dorri eu boliau wrth fwyta crempogau, bydd hynny newydd ddrwg iawn!'
Geirfa
traddodiadol / traditional
gwledda / to feast
crempogau / pancakes
dywediad / a saying
arferiad / habit
danteithion / confectionary
ymprydio / fast
Grawys / Lent
gŵyl / festival
poblogaidd / popular
Oesoedd Canol / Middle Ages
cyfnod/ period
saim / grease
traddodiad / tradition
hel Calennig / a tradition of visiting neighbours' houses to ask for money by singing verses
Calan / New Year's Day
adnabyddus / well-known
dibynnu / depending
ysgafnhau / to lighten
cytew / batter
llaeth enwyn / buttermilk
trochi / to soak
sur / sour
sibwns / spring onions
Llydaweg / Breton (language of Brittany)
achlysur / occasion
ymweld / visit
perthnasau / relatives
plentyndod / childhood
tystiolaeth / evidence
cyngor / advice
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2024