Lluniau: Eisteddfod Rhyng-gol 2025
- Cyhoeddwyd
Cafodd Eisteddfod Ryng-golegol 2025 ei chynnal yn Aberystwyth dros y penwythnos, gyda chystadlu brwd a digon o hwyl rhwng Prifysgolion Cymru.
Dyma flas o'r digwyddiad, gan y ffotograffydd Emily Janine.

Myfyrwyr Aberystwyth yn dathlu ennill yr Eisteddfod Ryng-golegol am yr ail flwyddyn yn olynol

Fe gyflawnodd Rebecca Ress o Brifysgol Aberystwyth y gamp ddwbl gan ennill y gadair a'r goron. Cafodd ei choroni a'i chadeirio gan Yr Athro Mererid Hopwood

Camau medrus Grŵp Dawnsio Gwerin Prifysgol Abertawe

Mae joio a chefnogi yr un mor bwysig â'r cystadlu fel mae rhai o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ei ddangos!

Efa Fychan yn cipio'r wobr gyntaf yn yr Unawd Sioe Gerdd

Triawd Doniol Prifysgol Bangor. Ydy'r wigiau yna'n cosi?!

Owain ac Aron o Brifysgol Caerdydd yn bloeddio canu

Prifysgol Caerdydd yn cipio Cwpan Chwaraeon Rhyng-gol

Grŵp Dawnsio Disgo Prifysgol Caerdydd

Mwy o symud gan grŵp dawnsio disgo Prifysgol Bangor

Roedd meim Prifysgol Abertawe yn dipyn o hwyl

Côr SATB Prifysgol Bangor

Côr SATB Prifysgol Aberystwyth

Prifardd y diwrnod, Rebecca Rees a'i llond llaw o wobrau ar derfyn dydd. Llongyfarchiadau Rebecca!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2024