'Colli golwg fel rhyw fath o alar'

Bridie Doyle-RobertsFfynhonnell y llun, Mark Robson
  • Cyhoeddwyd

"I fi mae colli fy ngolwg fel rhyw fath o alar. Mae'n broses o deimlo'n drist, teimlo'r golled, teimlo'n ansicr."

Mae'r artist Bridie Doyle-Roberts wedi defnyddio ei phrofiad personol o fynd yn ddall i'w hysbrydoli i greu gwaith celf newydd.

Ar ôl darganfod rhai blynyddoedd yn ôl fod ganddi gyflwr dirywiol ar ei llygaid, mae'r artist o Bontypridd yn awyddus i gywiro rhai camsyniadau am fynd yn ddall.

Drwy waith celf theatrig o'r enw Sbectrwm o'r Golwg, mae Bridie yn archwilio sut rydym ni'n gweld a sut deimlad yw colli golwg.

Mae lot o bobl ddim rili'n deall beth mae bod yn ddall yn gallu golygu.

Mae llawer o bobl yn meddwl bod y golau arno neu maen nhw bant felly ddim yn deall, er enghraifft, fod hi'n bosib eich bod wedi cofrestru'n ddall pan fod gennych chi ychydig o golwg.

Ac mae'n amrywio hefyd o ran y math o olwg. Er enghraifft, gallwch chi gael nam yng nghanol eich golwg, neu nam ar yr ochrau, neu rhyw fath o obstruction gwahanol.

I fi, does gen i ddim golwg o gwmpas yr ochrau. Ond mae gen i olwg yn y canol mewn golau da. Yn y tywyllwch dwi'n fwy dall.

Mae'n sbectrwm o bethau gwahanol ac hefyd mae pobl yn meddwl os chi'n defnyddio ffon gwyn, mae'n rhaid iddyn nhw helpu, neu cymryd bod chi ddim yn gallu edrych ar eich ffôn chi, neu chi ddim yn gallu darllen bwydlen.

Rhan o waith celf Bridie yn Sbectrwm o'r GolwgFfynhonnell y llun, Sbectrwm o'r Golwg
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o waith celf Bridie yn Sbectrwm o'r Golwg

Colli golwg

Mae'r cyflwr sy' gen i yn amrywio o berson i berson. Ac mae'n gallu bod yn amser eitha' hir o golli'r golwg am ychydig, ond mae'n gallu bod yn fwy cyflym, mae'n dibynnu ar yr unigolyn. Mae'n anodd i ddweud ond maen nhw'n gobeithio bydda i'n gallu cadw rhan o'r golwg yn y canol.

Felly mae'n rhaid i fi baratoi, ond hyd yn oed wrth golli rhan o'r golwg, mae bywyd yn newid llawer. Mae beth yn union dwi'n gallu gwneud a pha fath o gymorth dwi angen yn amrywio.

Mae hwnna dal yn rhywbeth mae'n rhaid i fi weithio trwyddo a trio ffeindio ffyrdd gwahanol o baratoi amdano. Dwi'n colli y teimlad o annibyniaeth. Fel arfer dwi efo rhywun nawr, dwi ddim yn mynd i lawer o bethau ar ben fy hun.

Mae pob un ohonom ar ryw adeg wedi bod yn ofnus am rywbeth yn effeithio ar pwy ydym ni. Mae colli golwg fel mynd mewn i dwnnel a'r ofn hynny o gamu ymlaen heb wybod beth chi'n sy' o'ch blaen.

Achos mae'r teimlad hynny o beidio gwybod beth sy' yn y dyfodol yn creu ofn. Mae hyd yn oed pethau syml fel mod i ddim yn gallu gyrru mwyach wedi newid fy mywyd yn llwyr.

Sbectrwm o'r GolwgFfynhonnell y llun, Mark Robson
Disgrifiad o’r llun,

Sbectrwm o'r Golwg ar waith

Rhannu stori drwy gelf

I fi mae fy ngwaith yn rhan o ddysgu sut i ddelio gyda'r newid a dwi ddim yn siŵr beth mae'r dyfodol yn mynd i fod fel.

Felly o'n i eisiau meddwl trwy'r dyfodol yma, ond hefyd ymwneud gyda theimladau o sut dwi'n gallu bod yn y byd a'r emosiynau sy'n dod o gwmpas colli golwg.

Mae lot o bobl sy'n gofyn cwestiynau 'doniol' fel fyddech chi'n hoffi colli golwg neu colli clyw? Ac mae rhai pobl yn teimlo'n fwy ofnus am golli golwg achos mae'r byd mor weledol.

Felly, mae'n bwysig i fi i wneud gwaith celf sy'n hygyrch ac yn dangos sut dwi'n delio gyda'r teimladau am colli golwg.

Wrth wneud y gwaith yma dwi wedi bod yn ymchwilio i lawer o bethau eraill. Mae hynny wedi bod yn diddorol i fi i ddysgu, ond hefyd i feddwl am sut i wneud fy ngwaith yn fwy hygyrch i bawb, ddim jyst person fel fi.

Mae'r gwaith wedi helpu fi achos dwi wedi bod yn gallu siarad am beth sy'n digwydd i fi a'r teimladau o gwmpas hynny ac mae pobl wedyn yn gallu cydymdeimlo ychydig a deall falle a meddwl ychydig yn wahanol am bethau.

So, mae hwnna wedi helpu fi i rannu ychydig o'r sgwrs, ychydig o'r profiad a mae wedi bod yn bwysig wedyn i'r teimlad o control o'r gwaith a fy mywyd i.

Mae Sbectrwm o'r Golwg yn ymdrochi pobl yn y celf. Maen nhw'n dod mewn i fyd gwahanol a'n gallu gwrando ar sain wahanol.

Fy neges i yw fod gwaith celf yn gallu bod yn hygyrch. Dwi'n gallu dangos hynny a gobeithio bod e'n helpu newid ac effeithio beth sy' allan yn y byd yn barod.

Dwi'n gobeithio y bydd pobl yn teimlo ymdeimlad o ran sut brofiad yw hyn i bobl fel fi a deall bod golwg yn sbectrwm ac nad yw'n rhywbeth sy' naill ai ymlaen neu wedi diffodd.

Mae Sbectrwm o'r Golwg i'w gweld yn Parc Arts, Trefforest, Pontypridd rhwng 6 a 15 Mawrth 2025.

Pynciau cysylltiedig