Crempogau blasus di-ffws Lisa Fearn

Lisa FearnFfynhonnell y llun, Lisa Fearn
  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n Ddydd Mawrth Ynyd, a phawb awydd crempog neu ddau (... neu dri).

Dyma rysáit am grempogau blasus, di-ffws gan y cogydd a'r athrawes goginio o Sir Benfro, Lisa Fearn.

Mae gwneud crempogau yn hawdd - beth sy'n anodd yw penderfynu beth rydych chi am ei fwyta gyda nhw!

Cynhwysion

1 cwpan llaeth

1 cwpan blawd

1 wy

1 llwy fwrdd menyn wedi toddi

Ar gyfer crempogau melys a fluffy, ychwanegwch 1 llwy de powdr pobi a 2 lwy de siwgr mân

crempogFfynhonnell y llun, Lisa Fearn

Dull

  • Rhowch yr holl gynhwysion mewn potyn jam a'i ysgwyd (neu gallwch chi ddefnyddio powlen a wisg!)

  • Rhowch ychydig o fenyn mewn padell ffrio a rhoi llwyaid o'r cytew (batter) i mewn i'r badell

  • Trowch y crempogau pan mae'r gwaelod yn euraidd a'u coginio am funud neu ddau eto

  • Tynnwch nhw o'r badell a'u cadw'n gynnes tra rydych chi'n coginio'r gweddill

  • Efallai y gallech chi goginio dau neu dri ar y tro, yn dibynnu ar faint y badell

Mwy na dim ond siwgr a lemwn...

  • Ysgeintiwch siwgr a ffrwythau drostyn nhw a'u gweini â iogwrt gyda mêl

  • Gallwch ychwanegu resins neu dameidiau o siocled i'r gymysgedd neu wrth i chi eu coginio

  • Beth am grempogau banana i'r banana-garwyr, drwy stwnsio'r banana a'i ychwanegu i'r cytew

  • Ffriwch gig moch streaky wedi ei fygu, draenio'r saim, tywalltwch surop masarn (maple) drosto a'i ffrio eto. Gallwch wedyn weini'r crempogau gyda chaws meddal, y cig moch a mwy o surop masarn am eu pennau

Hyfryd!

Pynciau cysylltiedig